xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU

PENNOD 4LL+CSEFYDLU CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PAN NA FO CAIS WEDI EI WNEUD

74Rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneudLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â’r prif ardaloedd a bennir yn y rheoliadau (“yr ardaloedd perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 75 wedi eu bodloni.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—

(a)swyddogaeth y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol sy’n ymwneud ag—

(i)gwella addysg;

(ii)trafnidiaeth;

(b)y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (gweler is-adran (4) ynglŷn â hynny);

(c)y swyddogaeth llesiant economaidd.

(4)Pan bennir y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol mewn rheoliadau cyd-bwyllgor, mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) yn gymwys i’r cyd-bwyllgor corfforedig.

(5)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—

(a)yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol, neu

(b)yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.

(6)Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 74 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

75Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau o dan adran 74LL+C

(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 74(2) fel a ganlyn.

(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau—

(a)y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau,

(b)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,

(c)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,

(d)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,

(e)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,

(f)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac

(g)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau o dan adran 74, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad—

(a)i’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau, a

(b)os yw’r rheoliadau yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, i’r awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn unrhyw un neu ragor o’r prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau.

(4)Gellir bodloni’r amod cyntaf drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 75 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)