http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welshDeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021cyKing's Printer of Acts of Parliament2021-01-20RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAUPENNOD 5DARPARIAETH BELLACH MEWN PERTHYNAS Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A RHEOLIADAU CYD-BWYLLGORHybu a gwella llesiant economaidd
76Y swyddogaeth llesiant economaidd1

Caiff cyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth llesiant economaidd iddo wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.

2

Caniateir i’r swyddogaeth llesiant economaidd gael ei harfer mewn perthynas â’r canlynol neu er budd y canlynol—

a

ardal gyfan y cyd-bwyllgor corfforedig neu unrhyw ran ohoni;

b

yr holl bersonau neu unrhyw bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal.

3

Mae’r swyddogaeth llesiant economaidd yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw beth mewn perthynas ag unrhyw berson neu ardal, neu er budd unrhyw berson neu ardal, a leolir y tu allan i ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i Gymru, os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.

4

Mae is-adrannau (1) i (3) yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau cyd-bwyllgor neu reoliadau o dan adran 83.

Darpariaeth mewn rheoliadau cyd-bwyllgor
77Darpariaeth y caniateir ei chynnwys neu y mae rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor1

Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor ddarparu bod prif aelodau gweithrediaeth y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig yn aelodau o’r pwyllgor.

2

Pan fo’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol wedi ei phennu mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a bod unrhyw ran o Barc Cenedlaethol yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch aelodaeth yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw o’r pwyllgor.

3

Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor wneud darpariaeth, yn benodol, ynglŷn ag—

a

yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), cyfansoddiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys ynglŷn â chyfethol aelodau i’r pwyllgor neu i unrhyw is-bwyllgor);

b

enw cyd-bwyllgor corfforedig;

c

sefydlu is-bwyllgorau i gyd-bwyllgor corfforedig;

d

trafodion cyd-bwyllgor corfforedig ac unrhyw is-bwyllgor (gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â hawliau pleidleisio);

e

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i drefnu i berson arall arfer ei swyddogaethau;

f

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer, ar ran unrhyw berson, unrhyw swyddogaethau sydd gan y person hwnnw;

g

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer ei swyddogaethau, ac eithrio swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), ar y cyd, neu drwy gydweithio fel arall, â pherson arall;

h

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;

i

cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd i aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig neu o unrhyw is-bwyllgor;

j

ariannu cyd-bwyllgor corfforedig;

k

cyllid cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—

i

cyd-bwyllgor corfforedig yn benthyca arian neu’n ei roi ar fenthyg;

ii

cyd-bwyllgor corfforedig yn rhoi neu’n cael cymorth ariannol;

iii

cyd-bwyllgor corfforedig yn codi ffioedd;

l

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y caiff ei wneud wrth arfer ei swyddogaethau;

m

perfformiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys gwneud pwyllgor yn destun craffu gan berson arall);

n

cyd-bwyllgor corfforedig yn caffael, yn perchnogi neu’n gwaredu eiddo (tirol neu bersonol) neu hawliau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer caffael tir yn orfodol);

o

cyd-bwyllgor corfforedig yn cychwyn achos cyfreithiol neu’n cymryd rhan mewn achos cyfreithiol (gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus);

p

pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i—

i

cyd-bwyllgor corfforedig;

ii

prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig;

iii

os yw’r rheoliadau cyd-bwyllgor yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig,

ac ynglŷn â gorfodi’r cyfarwyddydau hynny;

q

pŵer cyd-bwyllgor corfforedig i wneud pethau er mwyn hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

4

At ddibenion is-adran (1), ystyr “prif aelod gweithrediaeth” yw—

a

yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yr arweinydd gweithrediaeth;

b

yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig.

Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor
78Cais gan brif gynghorau i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor1

Caiff y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 i ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y cyd-bwyllgor corfforedig.

2

Ond ni chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i Weinidogion Cymru ystyried—

a

diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—

i

onid yw honno yn swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais;

ii

onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;

b

diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud) er mwyn—

i

hepgor neu addasu swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;

ii

hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;

iii

hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd neu osod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth honno;

c

dirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 74.

3

Ni chaniateir gwneud cais o dan yr adran hon yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal (fel y bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â’r ardal honno) oni fo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno yn un o’r ceiswyr.

79Darpariaeth bellach mewn perthynas â cheisiadau1

Cyn gwneud cais o dan adran 78 rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, ar ôl cael cais o dan adran 78, peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 80, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.

80Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) onid yw—

a

yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt), yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;

b

yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth, ac eithrio er mwyn—

i

pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;

ii

pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;

iii

pennu neu hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd,

yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;

c

mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau o dan adran 74 er mwyn gosod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd), yr amodau a nodir yn adran 82 wedi eu bodloni.

3

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—

a

onid yw honno yn swyddogaeth i’r prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;

b

onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;

c

yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74, onid honno yw’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.

4

Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—

a

yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, neu

b

yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.

5

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.

6

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sydd—

a

yn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn hepgor swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau cyd-bwyllgor hynny, neu

b

yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor (er mwyn diddymu’r cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan y rheoliadau hynny),

ddarparu y bydd swyddogaeth a fydd yn peidio â bod yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio’r swyddogaeth llesiant economaidd neu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yn arferadwy gan berson arall.

7

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddirymu rheoliadau a wnaed o dan yr adran hon.

81Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor: cais gan brif gynghorau yn ofynnol1

Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(a) a (b) fel a ganlyn.

2

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais o dan adran 78 i ddiwygio’r rheoliadau cyd-bwyllgor.

3

Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.

4

Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.

5

Y pedwerydd amod yw, os yw’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i’r cyd-bwyllgor corfforedig.

82Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor: nid yw cais gan brif gynghorau yn ofynnol1

Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(c) fel a ganlyn.

2

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.

3

Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i—

a

y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig,

b

os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal—

i

y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, a

ii

os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, neu os bydd ganddo’r swyddogaeth honno o dan y rheoliadau, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal honno,

c

os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, a

d

y cyd-bwyllgor corfforedig.

Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau cyd-bwyllgor ac mewn cysylltiad â hwy
83Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau penodol o dan y Rhan hon1

Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed sy’n gymwys mewn perthynas ag—

a

pob cyd-bwyllgor corfforedig;

b

cyd-bwyllgor corfforedig penodol;

c

cyd-bwyllgor corfforedig o ddisgrifiad penodol.

3

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth hefyd sy’n gosod gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd gan gyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth honno iddo.

4

Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor.

5

Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—

a

ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth)—

i

o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;

ii

o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;

iii

o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;

iv

o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;

v

o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;

b

ar gyfer rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i gyd-bwyllgor corfforedig neu a gaffaelir ganddo fel arall;

c

i achos sifil neu droseddol—

i

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig;

ii

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;

iii

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor, un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;

iv

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor neu un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;

d

yn ddarostyngedig i is-adran (6), ar gyfer trosglwyddo staff—

i

o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;

ii

o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;

iii

o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;

iv

o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;

v

o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;

e

ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);

f

ar gyfer trin at rai dibenion neu at bob diben—

i

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor;

ii

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod Parc Cenedlaethol;

iii

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig arall;

iv

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);

v

prif gyngor, person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) neu awdurdod Parc Cenedlaethol fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig;

vi

prif gyngor fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);

g

ynglŷn â phethau y caiff cyd-bwyllgor corfforedig eu gwneud neu y mae rhaid iddo eu gwneud sy’n atodol i swyddogaethau’r pwyllgor a bennir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor yn rhinwedd adran 72(1), 74(1) neu 80(1), neu sy’n gysylltiedig â hwy;

h

ynglŷn â darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i berson a bennir yn y rheoliadau;

i

ynglŷn â chydweithredu gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig â pherson a bennir yn y rheoliadau;

j

ar gyfer talu digollediad mewn cysylltiad â cholled a ddioddefir gan unrhyw berson o ganlyniad i swyddogaeth sy’n dod, neu’n peidio â bod, yn arferadwy gan gyd-bwyllgor corfforedig.

6

Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor, rheoliadau o dan adran 80 neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i’r trosglwyddiadau hynny (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).

7

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu reoliadau a wneir o dan yr is-adran hon; a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

84Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio, i ddiddymu etc. ddeddfiadau1

Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 neu 83—

a

diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;

b

diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rhan hon neu fel arall mewn cysylltiad â hi, drwy reoliadau—

a

diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;

b

diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

Swyddogaethau cyd-bwyllgorau corfforedig a phrif gynghorau a swyddogaethau sy’n ymwneud â hwy
85Gofyniad i ddarparu gwybodaeth etc.

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol—

a

at ddibenion ystyried a ddylid gwneud rheoliadau o dan y Rhan hon;

b

at ddibenion rhoi effaith i’r rheoliadau hynny;

c

fel arall mewn cysylltiad â’r rheoliadau hynny.

86Canllawiau1

Rhaid i brif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Penodau 3 a 4 a’r Bennod hon.

2

Rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Pennod 4 a’r Bennod hon.

87Arfer swyddogaethau gan brif gynghorau o dan y Rhan hon1

Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).

2

Nid yw’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.

3

Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).

4

Y swyddogaethau yw—

a

gwneud cais cyd-bwyllgor;

b

rhoi cydsyniad o dan adran 73(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu gwneud;

c

gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor;

d

rhoi cydsyniad o dan adran 81(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu diwygio.

Diwygiadau i ddeddfiadau eraill
88Diwygiadau sy’n ymwneud â chynllunio strategol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth1

Mae Rhan 1 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a deddfiadau eraill er mwyn—

a

diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu paneli cynllunio strategol ac ardaloedd cynllunio strategol, a

b

darparu ar gyfer rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol i gyd-bwyllgorau corfforedig penodol.

2

Mae Rhan 2 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio deddfiadau eraill er mwyn diddymu pŵer Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth.

This XML file does not appear to have any style information associated with it. The document tree is shown below.
<akomaNtoso xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" xmlns="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0" xsi:schemaLocation="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0 http://docs.oasis-open.org/legaldocml/akn-core/v1.0/cos01/part2-specs/schemas/akomantoso30.xsd">
<portion includedIn="http://www.legislation.gov.uk/id/asc/2021/1/part/5">
<meta>
<identification source="#source">
<FRBRWork>
<FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/id/asc/2021/1/part/5"/>
<FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/id/asc/2021/1/part/5"/>
<FRBRdate date="2021-01-20" name="enacted"/>
<FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk/id/legislature/WelshParliament"/>
<FRBRcountry value="GB-WLS"/>
<FRBRnumber value="1"/>
<FRBRname value="2021 asc 1"/>
<FRBRprescriptive value="true"/>
</FRBRWork>
<FRBRExpression>
<FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh"/>
<FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/enacted/welsh"/>
<FRBRdate date="2021-01-20" name="enacted"/>
<FRBRauthor href="#source"/>
<FRBRlanguage language="cym"/>
</FRBRExpression>
<FRBRManifestation>
<FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.akn"/>
<FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/enacted/welsh/data.akn"/>
<FRBRdate date="2024-11-11Z" name="transform"/>
<FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk"/>
<FRBRformat value="application/akn+xml"/>
</FRBRManifestation>
</identification>
<lifecycle source="#source">
<eventRef date="2021-01-20" type="generation" eId="enacted-date" source="#source"/>
<eventRef date="2021-01-21" type="amendment" source="#source"/>
<eventRef date="2021-01-21" type="amendment" source="#source"/>
</lifecycle>
<references source="#source">
<TLCOrganization eId="source" href="http://www.legislation.gov.uk/id/publisher/KingsOrQueensPrinterOfActsOfParliament" showAs="King's Printer of Acts of Parliament"/>
</references>
<proprietary xmlns:ukl="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" source="#source">
<dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh</dc:identifier>
<dc:title>Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021</dc:title>
<dc:language>cy</dc:language>
<dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher>
<dc:modified>2021-01-20</dc:modified>
<atom:link rel="self" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.xml" type="application/xml"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/resources" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/resources/welsh" title="More Resources"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/notes" href="http://www.legislation.gov.uk/id/asc/2021/1/part/5/chapter/5/notes/welsh" title="Explanatory Notes"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/notes/toc" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/notes/contents/welsh" title="Explanatory Notes Table of Contents"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/act" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/enacted/welsh" title="whole act"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/introduction" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/introduction/enacted/welsh" title="introduction"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/body" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/body/enacted/welsh" title="body"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/schedules" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/schedules/enacted/welsh" title="schedules"/>
<atom:link rel="alternate" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/contents/enacted" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/rdf+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.rdf" title="RDF/XML"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/akn+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.akn" title="AKN"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/xhtml+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.xht" title="HTML snippet"/>
<atom:link rel="alternate" type="text/html" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.htm" title="Website (XHTML) Default View"/>
<atom:link rel="alternate" type="text/csv" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.csv" title="CSV"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/pdf" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.pdf" title="PDF"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/akn+xhtml" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/enacted/welsh/data.html" title="HTML5 snippet"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="cy" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/contents/enacted/welsh" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/hasVersion" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/2021-01-21/welsh" title="2021-01-21" hreflang="cy"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/hasVersion" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/welsh" title="current" hreflang="cy"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/hasVersion" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5/2021-01-21" title="2021-01-21" hreflang="en"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/hasVersion" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/5" title="current" hreflang="en"/>
<atom:link rel="up" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/enacted/welsh" title="Part 5"/>
<atom:link rel="prev" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/4/enacted/welsh" title="Chapter; Part 5 Chapter 4"/>
<atom:link rel="prevInForce" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/5/chapter/4/enacted/welsh" title="Chapter; Part 5 Chapter 4"/>
<atom:link rel="next" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/6/chapter/1/enacted/welsh" title="Chapter; Part 6 Chapter 1"/>
<atom:link rel="nextInForce" href="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/part/6/chapter/1/enacted/welsh" title="Chapter; Part 6 Chapter 1"/>
<ukm:PrimaryMetadata>
<ukm:DocumentClassification>
<ukm:DocumentCategory Value="primary"/>
<ukm:DocumentMainType Value="WelshParliamentAct"/>
<ukm:DocumentStatus Value="final"/>
</ukm:DocumentClassification>
<ukm:Year Value="2021"/>
<ukm:Number Value="1"/>
<ukm:EnactmentDate Date="2021-01-20"/>
<ukm:ISBN Value="9780348113433"/>
</ukm:PrimaryMetadata>
<ukm:Notes>
<ukm:Note IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/asc/2021/1/notes"/>
<ukm:Alternatives>
<ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/pdfs/ascen_20210001_en.pdf" Date="2021-04-01" Title="Explanatory Note" Size="3933172"/>
<ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/pdfs/ascen_20210001_we.pdf" Date="2021-04-01" Title="Explanatory Note" Size="3082767" Language="Welsh"/>
<ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/pdfs/ascen_20210001_mi.pdf" Date="2021-03-16" Title="Explanatory Note" Size="4879418" Language="Mixed"/>
</ukm:Alternatives>
</ukm:Notes>
<ukm:Alternatives>
<ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/pdfs/asc_20210001_we.pdf" Date="2022-08-03" Title="Welsh Language" Size="3359747" Language="Welsh"/>
<ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/pdfs/asc_20210001_en.pdf" Date="2022-08-03" Title="English Language" Size="3383269"/>
<ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/asc/2021/1/pdfs/asc_20210001_mi.pdf" Date="2021-01-21" Size="5261006" Language="Mixed"/>
</ukm:Alternatives>
<ukm:Statistics>
<ukm:TotalParagraphs Value="422"/>
<ukm:BodyParagraphs Value="193"/>
<ukm:ScheduleParagraphs Value="229"/>
<ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/>
<ukm:TotalImages Value="0"/>
</ukm:Statistics>
</proprietary>
</meta>
<portionBody>
<part eId="part-5">
<num>RHAN 5</num>
<heading>CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU</heading>
<chapter eId="part-5-chapter-5">
<num>PENNOD 5</num>
<heading>DARPARIAETH BELLACH MEWN PERTHYNAS Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A RHEOLIADAU CYD-BWYLLGOR</heading>
<hcontainer name="crossheading" eId="part-5-chapter-5-crossheading-hybu-a-gwella-llesiant-economaidd">
<heading>Hybu a gwella llesiant economaidd</heading>
<section eId="section-76">
<num>76</num>
<heading>Y swyddogaeth llesiant economaidd</heading>
<subsection eId="section-76-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Caiff cyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth llesiant economaidd iddo wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-76-2">
<num>2</num>
<intro>
<p>Caniateir i’r swyddogaeth llesiant economaidd gael ei harfer mewn perthynas â’r canlynol neu er budd y canlynol—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-76-2-a">
<num>a</num>
<content>
<p>ardal gyfan y cyd-bwyllgor corfforedig neu unrhyw ran ohoni;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-76-2-b">
<num>b</num>
<content>
<p>yr holl bersonau neu unrhyw bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-76-3">
<num>3</num>
<content>
<p>Mae’r swyddogaeth llesiant economaidd yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw beth mewn perthynas ag unrhyw berson neu ardal, neu er budd unrhyw berson neu ardal, a leolir y tu allan i ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i Gymru, os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-76-4">
<num>4</num>
<content>
<p>Mae is-adrannau (1) i (3) yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau cyd-bwyllgor neu reoliadau o dan adran 83.</p>
</content>
</subsection>
</section>
</hcontainer>
<hcontainer name="crossheading" eId="part-5-chapter-5-crossheading-darpariaeth-mewn-rheoliadau-cydbwyllgor">
<heading>Darpariaeth mewn rheoliadau cyd-bwyllgor</heading>
<section eId="section-77">
<num>77</num>
<heading>Darpariaeth y caniateir ei chynnwys neu y mae rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor</heading>
<subsection eId="section-77-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor ddarparu bod prif aelodau gweithrediaeth y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig yn aelodau o’r pwyllgor.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-77-2">
<num>2</num>
<content>
<p>Pan fo’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol wedi ei phennu mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a bod unrhyw ran o Barc Cenedlaethol yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch aelodaeth yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw o’r pwyllgor.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-77-3">
<num>3</num>
<intro>
<p>Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor wneud darpariaeth, yn benodol, ynglŷn ag—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-77-3-a">
<num>a</num>
<content>
<p>yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), cyfansoddiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys ynglŷn â chyfethol aelodau i’r pwyllgor neu i unrhyw is-bwyllgor);</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-b">
<num>b</num>
<content>
<p>enw cyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-c">
<num>c</num>
<content>
<p>sefydlu is-bwyllgorau i gyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-d">
<num>d</num>
<content>
<p>trafodion cyd-bwyllgor corfforedig ac unrhyw is-bwyllgor (gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â hawliau pleidleisio);</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-e">
<num>e</num>
<content>
<p>pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i drefnu i berson arall arfer ei swyddogaethau;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-f">
<num>f</num>
<content>
<p>pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer, ar ran unrhyw berson, unrhyw swyddogaethau sydd gan y person hwnnw;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-g">
<num>g</num>
<content>
<p>
pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer ei swyddogaethau, ac eithrio swyddogaethau o dan Ran 6 o
<ref href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/2004/5">Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5)</ref>
, ar y cyd, neu drwy gydweithio fel arall, â pherson arall;
</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-h">
<num>h</num>
<content>
<p>pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-i">
<num>i</num>
<content>
<p>cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd i aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig neu o unrhyw is-bwyllgor;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-j">
<num>j</num>
<content>
<p>ariannu cyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-k">
<num>k</num>
<intro>
<p>cyllid cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-77-3-k-i">
<num>i</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig yn benthyca arian neu’n ei roi ar fenthyg;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-77-3-k-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig yn rhoi neu’n cael cymorth ariannol;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-77-3-k-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig yn codi ffioedd;</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-l">
<num>l</num>
<content>
<p>pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y caiff ei wneud wrth arfer ei swyddogaethau;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-m">
<num>m</num>
<content>
<p>perfformiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys gwneud pwyllgor yn destun craffu gan berson arall);</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-n">
<num>n</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig yn caffael, yn perchnogi neu’n gwaredu eiddo (tirol neu bersonol) neu hawliau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer caffael tir yn orfodol);</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-o">
<num>o</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig yn cychwyn achos cyfreithiol neu’n cymryd rhan mewn achos cyfreithiol (gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus);</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-p">
<num>p</num>
<intro>
<p>pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-77-3-p-i">
<num>i</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-77-3-p-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-77-3-p-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>os yw’r rheoliadau cyd-bwyllgor yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig,</p>
</content>
</subparagraph>
<wrapUp>
<p>ac ynglŷn â gorfodi’r cyfarwyddydau hynny;</p>
</wrapUp>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-3-q">
<num>q</num>
<content>
<p>pŵer cyd-bwyllgor corfforedig i wneud pethau er mwyn hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-77-4">
<num>4</num>
<intro>
<p>At ddibenion is-adran (1), ystyr “prif aelod gweithrediaeth” yw—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-77-4-a">
<num>a</num>
<content>
<p>yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yr arweinydd gweithrediaeth;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-77-4-b">
<num>b</num>
<content>
<p>yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
</section>
</hcontainer>
<hcontainer name="crossheading" eId="part-5-chapter-5-crossheading-diwygio-a-dirymu-rheoliadau-cydbwyllgor">
<heading>Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor</heading>
<section eId="section-78">
<num>78</num>
<heading>Cais gan brif gynghorau i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor</heading>
<subsection eId="section-78-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Caiff y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 i ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y cyd-bwyllgor corfforedig.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-78-2">
<num>2</num>
<intro>
<p>Ond ni chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i Weinidogion Cymru ystyried—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-78-2-a">
<num>a</num>
<intro>
<p>diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-78-2-a-i">
<num>i</num>
<content>
<p>onid yw honno yn swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-78-2-a-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-78-2-b">
<num>b</num>
<intro>
<p>diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud) er mwyn—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-78-2-b-i">
<num>i</num>
<content>
<p>hepgor neu addasu swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-78-2-b-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-78-2-b-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd neu osod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth honno;</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-78-2-c">
<num>c</num>
<content>
<p>dirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 74.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-78-3">
<num>3</num>
<content>
<p>Ni chaniateir gwneud cais o dan yr adran hon yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal (fel y bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â’r ardal honno) oni fo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno yn un o’r ceiswyr.</p>
</content>
</subsection>
</section>
<section eId="section-79">
<num>79</num>
<heading>Darpariaeth bellach mewn perthynas â cheisiadau</heading>
<subsection eId="section-79-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Cyn gwneud cais o dan adran 78 rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-79-2">
<num>2</num>
<content>
<p>Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, ar ôl cael cais o dan adran 78, peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 80, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.</p>
</content>
</subsection>
</section>
<section eId="section-80">
<num>80</num>
<heading>Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor</heading>
<subsection eId="section-80-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-80-2">
<num>2</num>
<intro>
<p>Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) onid yw—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-80-2-a">
<num>a</num>
<content>
<p>yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt), yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-80-2-b">
<num>b</num>
<intro>
<p>yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth, ac eithrio er mwyn—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-80-2-b-i">
<num>i</num>
<content>
<p>pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-80-2-b-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-80-2-b-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>pennu neu hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd,</p>
</content>
</subparagraph>
<wrapUp>
<p>yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;</p>
</wrapUp>
</paragraph>
<paragraph eId="section-80-2-c">
<num>c</num>
<content>
<p>mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau o dan adran 74 er mwyn gosod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd), yr amodau a nodir yn adran 82 wedi eu bodloni.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-80-3">
<num>3</num>
<intro>
<p>Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-80-3-a">
<num>a</num>
<content>
<p>onid yw honno yn swyddogaeth i’r prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-80-3-b">
<num>b</num>
<content>
<p>onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-80-3-c">
<num>c</num>
<content>
<p>yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74, onid honno yw’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-80-4">
<num>4</num>
<intro>
<p>Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-80-4-a">
<num>a</num>
<content>
<p>yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, neu</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-80-4-b">
<num>b</num>
<content>
<p>yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-80-5">
<num>5</num>
<content>
<p>Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-80-6">
<num>6</num>
<intro>
<p>Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sydd—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-80-6-a">
<num>a</num>
<content>
<p>yn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn hepgor swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau cyd-bwyllgor hynny, neu</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-80-6-b">
<num>b</num>
<content>
<p>yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor (er mwyn diddymu’r cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan y rheoliadau hynny),</p>
</content>
</paragraph>
<wrapUp>
<p>ddarparu y bydd swyddogaeth a fydd yn peidio â bod yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio’r swyddogaeth llesiant economaidd neu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yn arferadwy gan berson arall.</p>
</wrapUp>
</subsection>
<subsection eId="section-80-7">
<num>7</num>
<content>
<p>Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddirymu rheoliadau a wnaed o dan yr adran hon.</p>
</content>
</subsection>
</section>
<section eId="section-81">
<num>81</num>
<heading>Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor: cais gan brif gynghorau yn ofynnol</heading>
<subsection eId="section-81-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(a) a (b) fel a ganlyn.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-81-2">
<num>2</num>
<content>
<p>Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais o dan adran 78 i ddiwygio’r rheoliadau cyd-bwyllgor.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-81-3">
<num>3</num>
<content>
<p>Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-81-4">
<num>4</num>
<content>
<p>Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-81-5">
<num>5</num>
<content>
<p>Y pedwerydd amod yw, os yw’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i’r cyd-bwyllgor corfforedig.</p>
</content>
</subsection>
</section>
<section eId="section-82">
<num>82</num>
<heading>Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor: nid yw cais gan brif gynghorau yn ofynnol</heading>
<subsection eId="section-82-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(c) fel a ganlyn.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-82-2">
<num>2</num>
<content>
<p>Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-82-3">
<num>3</num>
<intro>
<p>Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-82-3-a">
<num>a</num>
<content>
<p>y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig,</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-82-3-b">
<num>b</num>
<intro>
<p>os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-82-3-b-i">
<num>i</num>
<content>
<p>y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, a</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-82-3-b-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, neu os bydd ganddo’r swyddogaeth honno o dan y rheoliadau, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal honno,</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-82-3-c">
<num>c</num>
<content>
<p>os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, a</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-82-3-d">
<num>d</num>
<content>
<p>y cyd-bwyllgor corfforedig.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
</section>
</hcontainer>
<hcontainer name="crossheading" eId="part-5-chapter-5-crossheading-darpariaeth-atodol-etc-mewn-rheoliadau-cydbwyllgor-ac-mewn-cysylltiad-hwy">
<heading>Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau cyd-bwyllgor ac mewn cysylltiad â hwy</heading>
<section eId="section-83">
<num>83</num>
<heading>Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau penodol o dan y Rhan hon</heading>
<subsection eId="section-83-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-83-2">
<num>2</num>
<intro>
<p>Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed sy’n gymwys mewn perthynas ag—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-83-2-a">
<num>a</num>
<content>
<p>pob cyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-2-b">
<num>b</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig penodol;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-2-c">
<num>c</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig o ddisgrifiad penodol.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-83-3">
<num>3</num>
<content>
<p>Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth hefyd sy’n gosod gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd gan gyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth honno iddo.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-83-4">
<num>4</num>
<content>
<p>Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-83-5">
<num>5</num>
<intro>
<p>Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-83-5-a">
<num>a</num>
<intro>
<p>ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth)—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-83-5-a-i">
<num>i</num>
<content>
<p>o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-a-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-a-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-a-iv">
<num>iv</num>
<content>
<p>o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-a-v">
<num>v</num>
<content>
<p>o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-b">
<num>b</num>
<content>
<p>ar gyfer rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i gyd-bwyllgor corfforedig neu a gaffaelir ganddo fel arall;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-c">
<num>c</num>
<intro>
<p>i achos sifil neu droseddol—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-83-5-c-i">
<num>i</num>
<content>
<p>a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-c-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-c-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor, un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-c-iv">
<num>iv</num>
<content>
<p>a gychwynnwyd gan neu yn erbyn person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor neu un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-d">
<num>d</num>
<intro>
<p>yn ddarostyngedig i is-adran (6), ar gyfer trosglwyddo staff—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-83-5-d-i">
<num>i</num>
<content>
<p>o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-d-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-d-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-d-iv">
<num>iv</num>
<content>
<p>o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-d-v">
<num>v</num>
<content>
<p>o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-e">
<num>e</num>
<content>
<p>ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-f">
<num>f</num>
<intro>
<p>ar gyfer trin at rai dibenion neu at bob diben—</p>
</intro>
<subparagraph eId="section-83-5-f-i">
<num>i</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-f-ii">
<num>ii</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod Parc Cenedlaethol;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-f-iii">
<num>iii</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig arall;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-f-iv">
<num>iv</num>
<content>
<p>cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-f-v">
<num>v</num>
<content>
<p>prif gyngor, person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) neu awdurdod Parc Cenedlaethol fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig;</p>
</content>
</subparagraph>
<subparagraph eId="section-83-5-f-vi">
<num>vi</num>
<content>
<p>prif gyngor fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);</p>
</content>
</subparagraph>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-g">
<num>g</num>
<content>
<p>ynglŷn â phethau y caiff cyd-bwyllgor corfforedig eu gwneud neu y mae rhaid iddo eu gwneud sy’n atodol i swyddogaethau’r pwyllgor a bennir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor yn rhinwedd adran 72(1), 74(1) neu 80(1), neu sy’n gysylltiedig â hwy;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-h">
<num>h</num>
<content>
<p>ynglŷn â darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i berson a bennir yn y rheoliadau;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-i">
<num>i</num>
<content>
<p>ynglŷn â chydweithredu gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig â pherson a bennir yn y rheoliadau;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-83-5-j">
<num>j</num>
<content>
<p>ar gyfer talu digollediad mewn cysylltiad â cholled a ddioddefir gan unrhyw berson o ganlyniad i swyddogaeth sy’n dod, neu’n peidio â bod, yn arferadwy gan gyd-bwyllgor corfforedig.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-83-6">
<num>6</num>
<content>
<p>
Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor, rheoliadau o dan adran 80 neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau
<ref href="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2006/246">Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246)</ref>
, ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i’r trosglwyddiadau hynny (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).
</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-83-7">
<num>7</num>
<content>
<p>Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu reoliadau a wneir o dan yr is-adran hon; a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.</p>
</content>
</subsection>
</section>
<section eId="section-84">
<num>84</num>
<heading>Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio, i ddiddymu etc. ddeddfiadau</heading>
<subsection eId="section-84-1">
<num>1</num>
<intro>
<p>Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 neu 83—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-84-1-a">
<num>a</num>
<content>
<p>diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-84-1-b">
<num>b</num>
<content>
<p>diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-84-2">
<num>2</num>
<intro>
<p>Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rhan hon neu fel arall mewn cysylltiad â hi, drwy reoliadau—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-84-2-a">
<num>a</num>
<content>
<p>diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-84-2-b">
<num>b</num>
<content>
<p>diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
</section>
</hcontainer>
<hcontainer name="crossheading" eId="part-5-chapter-5-crossheading-swyddogaethau-cydbwyllgorau-corfforedig-a-phrif-gynghorau-a-swyddogaethau-syn-ymwneud-hwy">
<heading>Swyddogaethau cyd-bwyllgorau corfforedig a phrif gynghorau a swyddogaethau sy’n ymwneud â hwy</heading>
<section eId="section-85">
<num>85</num>
<heading>Gofyniad i ddarparu gwybodaeth etc.</heading>
<intro>
<p>Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-85-a">
<num>a</num>
<content>
<p>at ddibenion ystyried a ddylid gwneud rheoliadau o dan y Rhan hon;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-85-b">
<num>b</num>
<content>
<p>at ddibenion rhoi effaith i’r rheoliadau hynny;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-85-c">
<num>c</num>
<content>
<p>fel arall mewn cysylltiad â’r rheoliadau hynny.</p>
</content>
</paragraph>
</section>
<section eId="section-86">
<num>86</num>
<heading>Canllawiau</heading>
<subsection eId="section-86-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Rhaid i brif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Penodau 3 a 4 a’r Bennod hon.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-86-2">
<num>2</num>
<content>
<p>Rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Pennod 4 a’r Bennod hon.</p>
</content>
</subsection>
</section>
<section eId="section-87">
<num>87</num>
<heading>Arfer swyddogaethau gan brif gynghorau o dan y Rhan hon</heading>
<subsection eId="section-87-1">
<num>1</num>
<content>
<p>Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-87-2">
<num>2</num>
<content>
<p>Nid yw’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-87-3">
<num>3</num>
<content>
<p>Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).</p>
</content>
</subsection>
<subsection eId="section-87-4">
<num>4</num>
<intro>
<p>Y swyddogaethau yw—</p>
</intro>
<paragraph eId="section-87-4-a">
<num>a</num>
<content>
<p>gwneud cais cyd-bwyllgor;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-87-4-b">
<num>b</num>
<content>
<p>rhoi cydsyniad o dan adran 73(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu gwneud;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-87-4-c">
<num>c</num>
<content>
<p>gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor;</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-87-4-d">
<num>d</num>
<content>
<p>rhoi cydsyniad o dan adran 81(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu diwygio.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
</section>
</hcontainer>
<hcontainer name="crossheading" eId="part-5-chapter-5-crossheading-diwygiadau-i-ddeddfiadau-eraill">
<heading>Diwygiadau i ddeddfiadau eraill</heading>
<section eId="section-88">
<num>88</num>
<heading>Diwygiadau sy’n ymwneud â chynllunio strategol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth</heading>
<subsection eId="section-88-1">
<num>1</num>
<intro>
<p>
Mae Rhan 1 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio
<ref href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/2004/5">Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5)</ref>
a deddfiadau eraill er mwyn—
</p>
</intro>
<paragraph eId="section-88-1-a">
<num>a</num>
<content>
<p>diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu paneli cynllunio strategol ac ardaloedd cynllunio strategol, a</p>
</content>
</paragraph>
<paragraph eId="section-88-1-b">
<num>b</num>
<content>
<p>darparu ar gyfer rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol i gyd-bwyllgorau corfforedig penodol.</p>
</content>
</paragraph>
</subsection>
<subsection eId="section-88-2">
<num>2</num>
<content>
<p>Mae Rhan 2 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio deddfiadau eraill er mwyn diddymu pŵer Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth.</p>
</content>
</subsection>
</section>
</hcontainer>
</chapter>
</part>
</portionBody>
</portion>
</akomaNtoso>