RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU
PENNOD 5DARPARIAETH BELLACH MEWN PERTHYNAS Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A RHEOLIADAU CYD-BWYLLGOR
Hybu a gwella llesiant economaidd
76Y swyddogaeth llesiant economaidd
1
Caiff cyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth llesiant economaidd iddo wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.
2
Caniateir i’r swyddogaeth llesiant economaidd gael ei harfer mewn perthynas â’r canlynol neu er budd y canlynol—
a
ardal gyfan y cyd-bwyllgor corfforedig neu unrhyw ran ohoni;
b
yr holl bersonau neu unrhyw bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal.
3
Mae’r swyddogaeth llesiant economaidd yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw beth mewn perthynas ag unrhyw berson neu ardal, neu er budd unrhyw berson neu ardal, a leolir y tu allan i ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i Gymru, os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.
4
Mae is-adrannau (1) i (3) yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau cyd-bwyllgor neu reoliadau o dan adran 83.
Darpariaeth mewn rheoliadau cyd-bwyllgor
77Darpariaeth y caniateir ei chynnwys neu y mae rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor
1
Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor ddarparu bod prif aelodau gweithrediaeth y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig yn aelodau o’r pwyllgor.
2
Pan fo’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol wedi ei phennu mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a bod unrhyw ran o Barc Cenedlaethol yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch aelodaeth yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw o’r pwyllgor.
3
Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor wneud darpariaeth, yn benodol, ynglŷn ag—
a
yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), cyfansoddiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys ynglŷn â chyfethol aelodau i’r pwyllgor neu i unrhyw is-bwyllgor);
b
enw cyd-bwyllgor corfforedig;
c
sefydlu is-bwyllgorau i gyd-bwyllgor corfforedig;
d
trafodion cyd-bwyllgor corfforedig ac unrhyw is-bwyllgor (gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â hawliau pleidleisio);
e
pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i drefnu i berson arall arfer ei swyddogaethau;
f
pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer, ar ran unrhyw berson, unrhyw swyddogaethau sydd gan y person hwnnw;
g
pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer ei swyddogaethau, ac eithrio swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), ar y cyd, neu drwy gydweithio fel arall, â pherson arall;
h
pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;
i
cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd i aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig neu o unrhyw is-bwyllgor;
j
ariannu cyd-bwyllgor corfforedig;
k
cyllid cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—
i
cyd-bwyllgor corfforedig yn benthyca arian neu’n ei roi ar fenthyg;
ii
cyd-bwyllgor corfforedig yn rhoi neu’n cael cymorth ariannol;
iii
cyd-bwyllgor corfforedig yn codi ffioedd;
l
pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y caiff ei wneud wrth arfer ei swyddogaethau;
m
perfformiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys gwneud pwyllgor yn destun craffu gan berson arall);
n
cyd-bwyllgor corfforedig yn caffael, yn perchnogi neu’n gwaredu eiddo (tirol neu bersonol) neu hawliau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer caffael tir yn orfodol);
o
cyd-bwyllgor corfforedig yn cychwyn achos cyfreithiol neu’n cymryd rhan mewn achos cyfreithiol (gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus);
p
pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i—
i
cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig;
iii
os yw’r rheoliadau cyd-bwyllgor yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig,
ac ynglŷn â gorfodi’r cyfarwyddydau hynny;
q
pŵer cyd-bwyllgor corfforedig i wneud pethau er mwyn hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.
4
At ddibenion is-adran (1), ystyr “prif aelod gweithrediaeth” yw—
a
yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yr arweinydd gweithrediaeth;
b
yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig.
Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor
78Cais gan brif gynghorau i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor
1
Caiff y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 i ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y cyd-bwyllgor corfforedig.
2
Ond ni chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i Weinidogion Cymru ystyried—
a
diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—
i
onid yw honno yn swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais;
ii
onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;
b
diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud) er mwyn—
i
hepgor neu addasu swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;
ii
hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;
iii
hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd neu osod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth honno;
c
dirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 74.
3
Ni chaniateir gwneud cais o dan yr adran hon yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal (fel y bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â’r ardal honno) oni fo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno yn un o’r ceiswyr.
79Darpariaeth bellach mewn perthynas â cheisiadau
1
Cyn gwneud cais o dan adran 78 rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
2
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, ar ôl cael cais o dan adran 78, peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 80, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.
80Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor.
2
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) onid yw—
a
yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt), yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;
b
yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth, ac eithrio er mwyn—
i
pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;
ii
pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;
iii
pennu neu hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd,
yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;
c
mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau o dan adran 74 er mwyn gosod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd), yr amodau a nodir yn adran 82 wedi eu bodloni.
3
Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—
a
onid yw honno yn swyddogaeth i’r prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;
b
onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;
c
yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74, onid honno yw’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.
4
Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—
a
yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, neu
b
yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.
5
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.
6
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sydd—
a
yn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn hepgor swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau cyd-bwyllgor hynny, neu
b
yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor (er mwyn diddymu’r cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan y rheoliadau hynny),
ddarparu y bydd swyddogaeth a fydd yn peidio â bod yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio’r swyddogaeth llesiant economaidd neu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yn arferadwy gan berson arall.
7
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddirymu rheoliadau a wnaed o dan yr adran hon.
81Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor: cais gan brif gynghorau yn ofynnol
1
Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(a) a (b) fel a ganlyn.
2
Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais o dan adran 78 i ddiwygio’r rheoliadau cyd-bwyllgor.
3
Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.
4
Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.
5
Y pedwerydd amod yw, os yw’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i’r cyd-bwyllgor corfforedig.
82Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor: nid yw cais gan brif gynghorau yn ofynnol
1
Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(c) fel a ganlyn.
2
Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.
3
Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i—
a
y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig,
b
os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal—
i
y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, a
ii
os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, neu os bydd ganddo’r swyddogaeth honno o dan y rheoliadau, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal honno,
c
os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, a
d
y cyd-bwyllgor corfforedig.
Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau cyd-bwyllgor ac mewn cysylltiad â hwy
83Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau penodol o dan y Rhan hon
1
Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed sy’n gymwys mewn perthynas ag—
a
pob cyd-bwyllgor corfforedig;
b
cyd-bwyllgor corfforedig penodol;
c
cyd-bwyllgor corfforedig o ddisgrifiad penodol.
3
Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth hefyd sy’n gosod gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd gan gyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth honno iddo.
4
Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor.
5
Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—
a
ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth)—
i
o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;
ii
o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;
iii
o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;
iv
o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;
v
o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;
b
ar gyfer rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i gyd-bwyllgor corfforedig neu a gaffaelir ganddo fel arall;
c
i achos sifil neu droseddol—
i
a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;
iii
a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor, un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;
iv
a gychwynnwyd gan neu yn erbyn person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor neu un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;
d
yn ddarostyngedig i is-adran (6), ar gyfer trosglwyddo staff—
i
o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;
ii
o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;
iii
o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;
iv
o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;
v
o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;
e
ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);
f
ar gyfer trin at rai dibenion neu at bob diben—
i
cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor;
ii
cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod Parc Cenedlaethol;
iii
cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig arall;
iv
cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);
v
prif gyngor, person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) neu awdurdod Parc Cenedlaethol fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig;
vi
prif gyngor fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);
g
ynglŷn â phethau y caiff cyd-bwyllgor corfforedig eu gwneud neu y mae rhaid iddo eu gwneud sy’n atodol i swyddogaethau’r pwyllgor a bennir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor yn rhinwedd adran 72(1), 74(1) neu 80(1), neu sy’n gysylltiedig â hwy;
h
ynglŷn â darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i berson a bennir yn y rheoliadau;
i
ynglŷn â chydweithredu gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig â pherson a bennir yn y rheoliadau;
j
ar gyfer talu digollediad mewn cysylltiad â cholled a ddioddefir gan unrhyw berson o ganlyniad i swyddogaeth sy’n dod, neu’n peidio â bod, yn arferadwy gan gyd-bwyllgor corfforedig.
6
Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor, rheoliadau o dan adran 80 neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i’r trosglwyddiadau hynny (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).
7
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu reoliadau a wneir o dan yr is-adran hon; a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
84Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio, i ddiddymu etc. ddeddfiadau
1
Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 neu 83—
a
diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;
b
diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rhan hon neu fel arall mewn cysylltiad â hi, drwy reoliadau—
a
diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;
b
diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
Swyddogaethau cyd-bwyllgorau corfforedig a phrif gynghorau a swyddogaethau sy’n ymwneud â hwy
85Gofyniad i ddarparu gwybodaeth etc.
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol—
a
at ddibenion ystyried a ddylid gwneud rheoliadau o dan y Rhan hon;
b
at ddibenion rhoi effaith i’r rheoliadau hynny;
c
fel arall mewn cysylltiad â’r rheoliadau hynny.
86Canllawiau
1
Rhaid i brif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Penodau 3 a 4 a’r Bennod hon.
2
Rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Pennod 4 a’r Bennod hon.
87Arfer swyddogaethau gan brif gynghorau o dan y Rhan hon
1
Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).
2
Nid yw’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
3
Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).
4
Y swyddogaethau yw—
a
gwneud cais cyd-bwyllgor;
b
rhoi cydsyniad o dan adran 73(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu gwneud;
c
gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor;
d
rhoi cydsyniad o dan adran 81(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu diwygio.
Diwygiadau i ddeddfiadau eraill
88Diwygiadau sy’n ymwneud â chynllunio strategol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth
1
Mae Rhan 1 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a deddfiadau eraill er mwyn—
a
diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu paneli cynllunio strategol ac ardaloedd cynllunio strategol, a
b
darparu ar gyfer rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol i gyd-bwyllgorau corfforedig penodol.
2
Mae Rhan 2 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio deddfiadau eraill er mwyn diddymu pŵer Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth.