RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU

PENNOD 1TERMAU A DDEFNYDDIR YN Y RHAN

I168Termau a ddefnyddir yn y Rhan

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

  • mae i “cais cyd-bwyllgor” (“joint committee application”) yr ystyr a roddir yn adran 70(1);

  • mae i “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yr ystyr a roddir yn adran 72(1) ac adran 74(1) (ac mae’n golygu corff corfforedig a sefydlir gan reoliadau cyd-bwyllgor at ddiben arfer, mewn perthynas â dwy brif ardal neu ragor, swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau);

  • mae i “cynllun datblygu strategol” (“strategic development plan”) yr ystyr a roddir i “strategic development plan” yn adran 60M o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);

  • mae “dogfennau” (“documents”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf;

  • ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw—

    1. a

      sir yng Nghymru;

    2. b

      bwrdeistref sirol (yng Nghymru);

  • ystyr “rheoliadau cyd-bwyllgor” (“joint committee regulations”) yw—

    1. a

      rheoliadau o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt);

    2. b

      rheoliadau o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud);

  • mae “swyddogaeth llesiant economaidd” (“economic well-being function”) i’w ddehongli yn unol ag adran 76.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 68 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

PENNOD 2CANLLAWIAU YNGLŶN Â CHYDWEITHIO

I269Canllawiau ynglŷn â chydweithio

1

Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau drwy gydweithio â phrif gyngor arall.

2

At ddibenion yr adran hon mae prif gyngor yn arfer swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall os yw—

a

yn arfer swyddogaeth prif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan—

i

adran 101(1)(b) o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall);

ii

rheoliadau a wneir o dan adran 19(1) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan awdurdod lleol arall);

iii

rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau nad ydynt yn swyddogaethau gweithrediaeth gan weithrediaeth awdurdod lleol arall);

b

yn arfer y swyddogaeth ar y cyd â phrif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 (gan gynnwys yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 (arfer swyddogaethau ar y cyd));

c

yn awdurdodi prif gyngor arall i arfer y swyddogaeth o dan orchymyn a wneir o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 70);

d

y swyddogaeth yn cael ei harfer mewn perthynas â’i brif ardal a phrif ardal prif gyngor arall gan gyd-bwyllgor corfforedig;

e

yn arfer y swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 69 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

PENNOD 3SEFYDLU CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PAN FO CAIS WEDI EI WNEUD

Ceisiadau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig

I370Cais gan brif gynghorau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig

1

Caiff unrhyw ddau brif gyngor neu ragor wneud cais ar y cyd (“cais cyd-bwyllgor”) i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 72 i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer—

a

swyddogaeth i’r cynghorau hynny;

b

y swyddogaeth llesiant economaidd,

mewn perthynas â phrif ardaloedd y cynghorau hynny.

2

Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais cyd-bwyllgor, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 72, rhaid iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 70 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I471Ymgynghori cyn gwneud cais cyd-bwyllgor

Cyn gwneud cais cyd-bwyllgor rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag—

a

pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,

b

pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,

c

yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,

d

y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,

e

pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac

f

unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 71 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt

I572Rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â phrif ardaloedd y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor (“y cynghorau perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 73 wedi eu bodloni.

3

Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—

a

swyddogaeth i’r prif gynghorau a wnaeth y cais;

b

y swyddogaeth llesiant economaidd.

4

Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—

a

yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y cynghorau perthnasol, neu

b

yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r cynghorau perthnasol.

5

Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 72 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I673Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt

1

Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 72(2) fel a ganlyn.

2

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais cyd-bwyllgor.

3

Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau arfaethedig—

a

y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor,

b

pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,

c

pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,

d

yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,

e

y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,

f

pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac

g

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

4

Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.

Annotations:
Commencement Information
I6

A. 73 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

PENNOD 4SEFYDLU CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PAN NA FO CAIS WEDI EI WNEUD

I774Rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â’r prif ardaloedd a bennir yn y rheoliadau (“yr ardaloedd perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 75 wedi eu bodloni.

3

Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—

a

swyddogaeth y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol sy’n ymwneud ag—

i

gwella addysg;

ii

trafnidiaeth;

b

y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (gweler is-adran (4) ynglŷn â hynny);

c

y swyddogaeth llesiant economaidd.

4

Pan bennir y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol mewn rheoliadau cyd-bwyllgor, mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) yn gymwys i’r cyd-bwyllgor corfforedig.

5

Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—

a

yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol, neu

b

yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.

6

Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 74 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I875Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau o dan adran 74

1

Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 74(2) fel a ganlyn.

2

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau—

a

y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau,

b

pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,

c

pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,

d

yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,

e

y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,

f

pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac

g

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

3

Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau o dan adran 74, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad—

a

i’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau, a

b

os yw’r rheoliadau yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, i’r awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn unrhyw un neu ragor o’r prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau.

4

Gellir bodloni’r amod cyntaf drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.

Annotations:
Commencement Information
I8

A. 75 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

PENNOD 5DARPARIAETH BELLACH MEWN PERTHYNAS Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A RHEOLIADAU CYD-BWYLLGOR

Hybu a gwella llesiant economaidd

I976Y swyddogaeth llesiant economaidd

1

Caiff cyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth llesiant economaidd iddo wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.

2

Caniateir i’r swyddogaeth llesiant economaidd gael ei harfer mewn perthynas â’r canlynol neu er budd y canlynol—

a

ardal gyfan y cyd-bwyllgor corfforedig neu unrhyw ran ohoni;

b

yr holl bersonau neu unrhyw bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal.

3

Mae’r swyddogaeth llesiant economaidd yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw beth mewn perthynas ag unrhyw berson neu ardal, neu er budd unrhyw berson neu ardal, a leolir y tu allan i ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i Gymru, os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.

4

Mae is-adrannau (1) i (3) yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau cyd-bwyllgor neu reoliadau o dan adran 83.

Annotations:
Commencement Information
I9

A. 76 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Darpariaeth mewn rheoliadau cyd-bwyllgor

I1077Darpariaeth y caniateir ei chynnwys neu y mae rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor

1

Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor ddarparu bod prif aelodau gweithrediaeth y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig yn aelodau o’r pwyllgor.

2

Pan fo’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol wedi ei phennu mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a bod unrhyw ran o Barc Cenedlaethol yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch aelodaeth yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw o’r pwyllgor.

3

Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor wneud darpariaeth, yn benodol, ynglŷn ag—

a

yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), cyfansoddiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys ynglŷn â chyfethol aelodau i’r pwyllgor neu i unrhyw is-bwyllgor);

b

enw cyd-bwyllgor corfforedig;

c

sefydlu is-bwyllgorau i gyd-bwyllgor corfforedig;

d

trafodion cyd-bwyllgor corfforedig ac unrhyw is-bwyllgor (gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â hawliau pleidleisio);

e

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i drefnu i berson arall arfer ei swyddogaethau;

f

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer, ar ran unrhyw berson, unrhyw swyddogaethau sydd gan y person hwnnw;

g

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer ei swyddogaethau, ac eithrio swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), ar y cyd, neu drwy gydweithio fel arall, â pherson arall;

h

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;

i

cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd i aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig neu o unrhyw is-bwyllgor;

j

ariannu cyd-bwyllgor corfforedig;

k

cyllid cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—

i

cyd-bwyllgor corfforedig yn benthyca arian neu’n ei roi ar fenthyg;

ii

cyd-bwyllgor corfforedig yn rhoi neu’n cael cymorth ariannol;

iii

cyd-bwyllgor corfforedig yn codi ffioedd;

l

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y caiff ei wneud wrth arfer ei swyddogaethau;

m

perfformiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys gwneud pwyllgor yn destun craffu gan berson arall);

n

cyd-bwyllgor corfforedig yn caffael, yn perchnogi neu’n gwaredu eiddo (tirol neu bersonol) neu hawliau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer caffael tir yn orfodol);

o

cyd-bwyllgor corfforedig yn cychwyn achos cyfreithiol neu’n cymryd rhan mewn achos cyfreithiol (gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus);

p

pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i—

i

cyd-bwyllgor corfforedig;

ii

prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig;

iii

os yw’r rheoliadau cyd-bwyllgor yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig,

ac ynglŷn â gorfodi’r cyfarwyddydau hynny;

q

pŵer cyd-bwyllgor corfforedig i wneud pethau er mwyn hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

4

At ddibenion is-adran (1), ystyr “prif aelod gweithrediaeth” yw—

a

yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yr arweinydd gweithrediaeth;

b

yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig.

Annotations:
Commencement Information
I10

A. 77 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

I1178Cais gan brif gynghorau i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

1

Caiff y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 i ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y cyd-bwyllgor corfforedig.

2

Ond ni chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i Weinidogion Cymru ystyried—

a

diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—

i

onid yw honno yn swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais;

ii

onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;

b

diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud) er mwyn—

i

hepgor neu addasu swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;

ii

hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;

iii

hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd neu osod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth honno;

c

dirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 74.

3

Ni chaniateir gwneud cais o dan yr adran hon yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal (fel y bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â’r ardal honno) oni fo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno yn un o’r ceiswyr.

Annotations:
Commencement Information
I11

A. 78 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I1279Darpariaeth bellach mewn perthynas â cheisiadau

1

Cyn gwneud cais o dan adran 78 rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, ar ôl cael cais o dan adran 78, peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 80, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.

Annotations:
Commencement Information
I12

A. 79 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I1380Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) onid yw—

a

yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt), yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;

b

yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth, ac eithrio er mwyn—

i

pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;

ii

pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;

iii

pennu neu hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd,

yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;

c

mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau o dan adran 74 er mwyn gosod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd), yr amodau a nodir yn adran 82 wedi eu bodloni.

3

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—

a

onid yw honno yn swyddogaeth i’r prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;

b

onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;

c

yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74, onid honno yw’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.

4

Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—

a

yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, neu

b

yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.

5

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.

6

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sydd—

a

yn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn hepgor swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau cyd-bwyllgor hynny, neu

b

yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor (er mwyn diddymu’r cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan y rheoliadau hynny),

ddarparu y bydd swyddogaeth a fydd yn peidio â bod yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio’r swyddogaeth llesiant economaidd neu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yn arferadwy gan berson arall.

7

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddirymu rheoliadau a wnaed o dan yr adran hon.

Annotations:
Commencement Information
I13

A. 80 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I1481Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor: cais gan brif gynghorau yn ofynnol

1

Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(a) a (b) fel a ganlyn.

2

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais o dan adran 78 i ddiwygio’r rheoliadau cyd-bwyllgor.

3

Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.

4

Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.

5

Y pedwerydd amod yw, os yw’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Annotations:
Commencement Information
I14

A. 81 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I1582Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor: nid yw cais gan brif gynghorau yn ofynnol

1

Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(c) fel a ganlyn.

2

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.

3

Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i—

a

y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig,

b

os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal—

i

y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, a

ii

os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, neu os bydd ganddo’r swyddogaeth honno o dan y rheoliadau, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal honno,

c

os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, a

d

y cyd-bwyllgor corfforedig.

Annotations:
Commencement Information
I15

A. 82 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau cyd-bwyllgor ac mewn cysylltiad â hwy

I1683Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau penodol o dan y Rhan hon

1

Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed sy’n gymwys mewn perthynas ag—

a

pob cyd-bwyllgor corfforedig;

b

cyd-bwyllgor corfforedig penodol;

c

cyd-bwyllgor corfforedig o ddisgrifiad penodol.

3

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth hefyd sy’n gosod gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd gan gyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth honno iddo.

4

Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor.

5

Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—

a

ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth)—

i

o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;

ii

o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;

iii

o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;

iv

o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;

v

o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;

b

ar gyfer rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i gyd-bwyllgor corfforedig neu a gaffaelir ganddo fel arall;

c

i achos sifil neu droseddol—

i

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig;

ii

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;

iii

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor, un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;

iv

a gychwynnwyd gan neu yn erbyn person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor neu un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;

d

yn ddarostyngedig i is-adran (6), ar gyfer trosglwyddo staff—

i

o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;

ii

o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;

iii

o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;

iv

o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;

v

o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;

e

ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);

f

ar gyfer trin at rai dibenion neu at bob diben—

i

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor;

ii

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod Parc Cenedlaethol;

iii

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig arall;

iv

cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);

v

prif gyngor, person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) neu awdurdod Parc Cenedlaethol fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig;

vi

prif gyngor fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);

g

ynglŷn â phethau y caiff cyd-bwyllgor corfforedig eu gwneud neu y mae rhaid iddo eu gwneud sy’n atodol i swyddogaethau’r pwyllgor a bennir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor yn rhinwedd adran 72(1), 74(1) neu 80(1), neu sy’n gysylltiedig â hwy;

h

ynglŷn â darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i berson a bennir yn y rheoliadau;

i

ynglŷn â chydweithredu gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig â pherson a bennir yn y rheoliadau;

j

ar gyfer talu digollediad mewn cysylltiad â cholled a ddioddefir gan unrhyw berson o ganlyniad i swyddogaeth sy’n dod, neu’n peidio â bod, yn arferadwy gan gyd-bwyllgor corfforedig.

6

Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor, rheoliadau o dan adran 80 neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i’r trosglwyddiadau hynny (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).

7

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu reoliadau a wneir o dan yr is-adran hon; a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

Annotations:
Commencement Information
I16

A. 83 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I1784Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio, i ddiddymu etc. ddeddfiadau

1

Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 neu 83—

a

diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;

b

diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rhan hon neu fel arall mewn cysylltiad â hi, drwy reoliadau—

a

diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;

b

diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

Annotations:
Commencement Information
I17

A. 84 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Swyddogaethau cyd-bwyllgorau corfforedig a phrif gynghorau a swyddogaethau sy’n ymwneud â hwy

I1885Gofyniad i ddarparu gwybodaeth etc.

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol—

a

at ddibenion ystyried a ddylid gwneud rheoliadau o dan y Rhan hon;

b

at ddibenion rhoi effaith i’r rheoliadau hynny;

c

fel arall mewn cysylltiad â’r rheoliadau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I18

A. 85 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I1986Canllawiau

1

Rhaid i brif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Penodau 3 a 4 a’r Bennod hon.

2

Rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Pennod 4 a’r Bennod hon.

Annotations:
Commencement Information
I19

A. 86 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

I2087Arfer swyddogaethau gan brif gynghorau o dan y Rhan hon

1

Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).

2

Nid yw’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.

3

Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).

4

Y swyddogaethau yw—

a

gwneud cais cyd-bwyllgor;

b

rhoi cydsyniad o dan adran 73(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu gwneud;

c

gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor;

d

rhoi cydsyniad o dan adran 81(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu diwygio.

Annotations:
Commencement Information
I20

A. 87 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Diwygiadau i ddeddfiadau eraill

I2188Diwygiadau sy’n ymwneud â chynllunio strategol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth

1

Mae Rhan 1 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a deddfiadau eraill er mwyn—

a

diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu paneli cynllunio strategol ac ardaloedd cynllunio strategol, a

b

darparu ar gyfer rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol i gyd-bwyllgorau corfforedig penodol.

2

Mae Rhan 2 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio deddfiadau eraill er mwyn diddymu pŵer Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth.