Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Cefnogaeth a chymorth i wella perfformiad

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Cefnogaeth a chymorth i wella perfformiad. Help about Changes to Legislation

Cefnogaeth a chymorth i wella perfformiadLL+C

102Cefnogaeth a chymorth gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw gefnogaeth a chymorth i brif gyngor y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Caiff prif gyngor ofyn i Weinidogion Cymru ystyried darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor o dan is-adran (1).

(3)Cyn darparu cefnogaeth a chymorth i brif gyngor o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyngor ynglŷn â’r gefnogaeth a’r cymorth y maent yn bwriadu eu darparu.

(4)Mae’r swyddogaeth yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall ag unrhyw berson;

(b)i gydweithredu ag unrhyw berson, neu i hwyluso neu gydgysylltu gweithgareddau unrhyw berson;

(c)i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau neu ystafelloedd i unrhyw berson.

103Cyfarwyddyd i brif gyngor ddarparu cefnogaeth a chymorthLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu i brif gyngor arall (“y cyngor a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Rhaid i’r gefnogaeth a’r cymorth sydd i’w darparu gael eu pennu yn y cyfarwyddyd.

(3)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau gyngor.

(4)Mae’r gefnogaeth a’r cymorth y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i’w darparu yn cynnwys—

(a)ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall â’r cyngor a gefnogir (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau);

(b)cydweithredu â’r cyngor a gefnogir, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;

(c)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau neu ystafelloedd i’r cyngor a gefnogir.

Back to top

Options/Help