Hunanasesiadau o berfformiadLL+C
91Dyletswydd ar brif gyngor i adrodd ar ei berfformiadLL+C
(1)Rhaid i brif gyngor, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad sy’n nodi ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth fodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
(2)Yn yr adran hon, cyfeirir at adroddiad o dan is-adran (1) fel “adroddiad hunanasesu”.
(3)Rhaid i adroddiad hunanasesu prif gyngor nodi unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd, ac unrhyw gamau y mae eisoes wedi eu cymryd, gyda’r nod o gynyddu’r graddau y bydd yn bodloni’r gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)Rhaid i adroddiad hunanasesu (ac eithrio adroddiad hunanasesu cyntaf prif gyngor) gynnwys casgliadau’r cyngor ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth unrhyw gamau a gynhwyswyd yn rhinwedd is-adran (3) yn adroddiad blaenorol y cyngor gynyddu’r graddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad hunanasesu yn ymwneud â hi.
(5)Wrth ddod i’r casgliadau yn ei adroddiad hunanasesu rhaid i gyngor ystyried safbwyntiau’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 90 (pa un a gafwyd y safbwyntiau hynny o dan adran 90 neu fel arall) ynglŷn ag i ba raddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(6)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’i adroddiad hunanasesu ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(7)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r adroddiad drafft a chaiff argymell newidiadau i’r casgliadau, neu i unrhyw beth a gynhwysir yn rhinwedd is-adran (3), yn y fersiwn ddrafft.
(8)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (7), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr adroddiad, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.
(9)Rhaid i’r cyngor wneud adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.
(10)Cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyngor yn llunio’r adroddiad rhaid i’r cyngor—
(a)cyhoeddi’r adroddiad,
(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, ac
(c)anfon yr adroddiad at—
(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,
(ii)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(iii)Gweinidogion Cymru.
(11)Caiff cyngor gyhoeddi ei adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a’i adroddiad o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (cynnydd tuag at gyflawni amcanion llesiant) mewn cysylltiad â’r un flwyddyn ariannol yn yr un ddogfen.