RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Pwyllgorau llywodraethu ac archwilio prif gynghorau

115Enw newydd ar bwyllgorau archwilio a’u swyddogaethau newydd

(1)

Mae adran 81 o Fesur 2011 (awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau archwilio) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adran (1), yn lle “(“pwyllgor archwilio”)” rhodder “(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)”.

(3)

Ym mharagraff (c) o is-adran (1), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, asesu perfformiad”.

(4)

Ar ôl paragraff (d) o is-adran (1) mewnosoder—

“(da)

i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(db)

i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,”.

(5)

Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

“(1A)

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.”

(6)

Mae Atodlen 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.