RHAN 6LL+CPERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 3LL+CCYDGYSYLLTU RHWNG RHEOLEIDDWYR

119Cydgysylltu rhwng rheoleiddwyrLL+C

(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol roi sylw i’r angen am gydgysylltu wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.

(2)Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen mewn perthynas â phob prif gyngor sy’n nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag ar ba ddyddiadau neu yn ystod pa gyfnodau yn y flwyddyn honno—

(a)y dylai’r rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â’r cyngor, a

(b)y dylai’r Archwilydd Cyffredinol arfer swyddogaethau perthnasol yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â’r cyngor hwnnw.

(3)Cyn llunio amserlen o dan is-adran (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â’r rheoleiddwyr perthnasol.

(4)Caniateir i’r ddyletswydd o dan is-adran (2) gael ei chyflawni drwy lunio amserlen sy’n ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol.

(5)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â phrif gyngor, gymryd pob cam rhesymol i gadw at yr amserlen a lunnir mewn perthynas â’r cyngor hwnnw o dan is-adran (2).

(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynorthwyo’r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (5).

(7)Yn yr adran hon, mae i “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol” yr ystyron a roddir yn adran 120.

120“Rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”LL+C

(1)At ddibenion adran 119 swyddogaethau perthnasol Archwilydd Cyffredinol Cymru yw—

(a)archwilio cyfrifon prif gyngor o dan Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23);

(b)cynnal astudiaeth o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 mewn perthynas â phrif gyngor;

(c)cynnal ymchwiliad o brif gyngor o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(2)At ddibenion adran 119, rheoleiddiwr perthnasol yw person a grybwyllir yng ngholofn gyntaf tabl 1 a’i swyddogaethau perthnasol yw’r swyddogaethau a bennir yn yr ail golofn.

TABL 1
Rheoleiddwyr perthnasolSwyddogaethau perthnasol
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng NghymruSwyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu swyddogaethau addysg etc.)
Gweinidogion CymruSwyddogaethau o dan adran 149A ac adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (adolygiadau etc. o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio tabl 1 er mwyn—

(a)ychwanegu cofnod;

(b)diwygio cofnod;

(c)hepgor cofnod.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy;

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(c)y person y bydd cofnod newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud ag ef.