xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff unrhyw ddau brif gyngor neu ragor wneud cais (“cais i uno”) ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau uno o dan adran 124(1) sy’n uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.
(2)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais i uno.
(3)Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cais i uno fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
(4)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr y prif gyngor at ddibenion y swyddogaeth o wneud cais i uno.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais i uno, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau uno o dan adran 124(1), rhaid iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 121 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Cyn gwneud cais i uno rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori â’r canlynol—
(a)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(b)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,
(d)yr awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,
(e)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(f)y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,
(g)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau,
[F1(ga)pob cyd-bwyllgor corfforedig—
(i)sy’n cynnwys o leiaf un prif swyddog gweithrediaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 77(4)) o’r prif gynghorau yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)y mae’n debygol fel arall y bydd y cynnig i uno’n effeithio arno,]
(h)pob prif gyngor arall ar gyfer prif ardal y mae’r cynnig i uno yn debygol o effeithio arni, ac
(i)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(2)Gellir bodloni’r gofyniad yn is-adran (1) drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.
Diwygiadau Testunol
F1A. 122(1)(ga) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 33
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 122 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â gwneud cais i uno.
(2)Gellir bodloni’r gofyniad yn is-adran (1) drwy roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru cyn i’r adran hon ddod i rym, ac a ddyroddwyd yn benodol at ddiben yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 123 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn cael cais i uno, cânt wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi prif ardal newydd ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”) drwy—
(a)diddymu prif ardaloedd y cynghorau sy’n uno ar y dyddiad trosglwyddo, a
(b)uno prif ardaloedd y cynghorau sy’n uno i greu prif ardal newydd.
(2)Yn y Rhan hon, cyfeirir at reoliadau o dan is-adran (1) fel rheoliadau uno.
(3)Rhaid i reoliadau uno ddarparu ar gyfer—
(a)ffin y brif ardal newydd,
(b)enw’r brif ardal newydd,
(c)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
(d)sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol ag adran 125),
(e)trosglwyddo swyddogaethau’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd, ac
(f)dirwyn y cynghorau sy’n uno i ben a’u diddymu.
(4)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
(5)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 124 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i reoliadau uno ddarparu y bydd cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(2)Rhaid i gyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol etholedig oni fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol darparu y bydd cyngor cysgodol dynodedig.
(3)Mae cyngor cysgodol etholedig—
(a)yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a
(b)yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fydd y cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(4)Mae cyngor cysgodol dynodedig—
(a)yn cynnwys holl aelodau’r cynghorau sy’n uno, a
(b)yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau uno fel y dyddiad pan fydd yr aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(5)Rhaid i’r rheoliadau uno wneud darpariaeth—
(a)i’r cyngor cysgodol benodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet,
(b)yn achos cyngor cysgodol dynodedig, sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,
(c)sy’n pennu swyddogaethau’r cyngor cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol, a
(d)ynglŷn ag ariannu’r cyngor cysgodol.
(6)Caiff darpariaeth a wneir yn unol ag is-adran (5)(d) roi swyddogaethau i gyngor sy’n uno, gan gynnwys mewn perthynas â gweinyddu cyllid y cyngor cysgodol.
(7)Yn is-adran (5)(c), ystyr y “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
(8)Rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu mai cyngor cysgodol etholedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (ac o’r dyddiad hwnnw mae’n brif gyngor, ac mae ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; ac mae’r weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, ac mae ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor).
(9)Yn achos cyngor cysgodol dynodedig, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu—
(a)mai’r cyngor cysgodol dynodedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y cyfnod cyn etholiad, a
(b)yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.
(10)Yn is-adran (9), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 125 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i’r rheoliadau uno bennu a yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd i fod—
(a)y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983, neu
(b)y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.
(2)Mewn perthynas â’r system bleidleisio a bennir yn y rheoliadau uno—
(a)rhaid iddi fod y system bleidleisio y cytunir arni gan y cynghorau sy’n uno, neu
(b)os na cheir cytundeb—
(i)rhaid iddi fod y system bleidleisio a ddefnyddir yn y ddau gyngor sy’n uno, neu pan fo tri chyngor neu ragor yn uno, yn yr holl gynghorau sy’n uno neu yn y mwyafrif ohonynt, yn union cyn dyddiad y cais, neu
(ii)os nad oedd y naill na’r llall o’r ddau gyngor sy’n uno, neu (pan fo tri chyngor neu ragor yn uno) os nad oedd y mwyafrif o’r cynghorau sy’n uno, yn defnyddio’r un system bleidleisio yn union cyn dyddiad y cais, rhaid iddi fod y system bleidleisio a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â’r cynghorau sy’n uno.
(3)Yn is-adran (2)(b), ystyr “dyddiad y cais” yw’r dyddiad y gwneir y cais i uno.
(4)Os gwneir cais i uno cyn i adran 7 ddod i rym—
(a)nid yw is-adrannau (1) a (2) o’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau uno sy’n ymwneud â’r cais, a
(b)rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 126 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i reoliadau uno bennu—
(a)dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, a
(b)cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.
(2)Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth—
(a)sy’n dileu etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol cynghorwyr;
(b)sy’n dileu etholiad ar gyfer maer etholedig i un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol meiri etholedig;
(c)mewn perthynas â gofynion i lenwi swyddi cynghorydd, is-gadeirydd neu gadeirydd sy’n digwydd dod yn wag, a chynnal etholiadau yn unrhyw un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno neu’r cyngor cysgodol er mwyn llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag;
(d)sy’n gohirio etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i gynghorau cymuned yn y brif ardal newydd ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol cynghorwyr.
(3)Caiff rheoliadau uno hefyd gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—
(a)penodi swyddog canlyniadau yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd;
(b)talu am wariant yr eir iddo wrth gynnal yr etholiad hwnnw, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer gwneud dyfarniadau gan Weinidogion Cymru ynglŷn â sut y mae gwariant i’w dalu;
(c)datganiadau derbyn swydd cynghorydd i’r prif gyngor newydd;
(d)cynnal cyfarfod cyntaf y prif gyngor newydd.
(4)Caiff darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(a) gynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i brif gyngor o ran penodi swyddog canlyniadau, ac ar gyfer gorfodi cyfarwyddydau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 127 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i gyngor sy’n uno—
(a)at ddibenion yr uno, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall neu’r cynghorau eraill sy’n uno ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r uno, a
(b)cymryd pob cam rhesymol—
(i)i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r prif gyngor newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(ii)i sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 128 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Os yw’r amodau a nodir yn yr adran hon wedi eu bodloni, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ailstrwythuro (gweler adran 131 ynglŷn â hynny).
(2)Yr amod cyntaf yw bod rhaid bod Gweinidogion Cymru wedi cael—
(a)adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7), neu
(b)cais i ddiddymu o dan adran 130 gan brif gyngor.
(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru—
(a)wedi rhoi hysbysiad i’r cynghorau yr effeithir arnynt bod Gweinidogion Cymru wedi cael yr adroddiad neu’r cais i ddiddymu, a
(b)wedi cyhoeddi’r hysbysiad.
(4)Y trydydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag—
(a)y cyngor a oedd yn destun yr adroddiad a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu a wnaeth y cais i ddiddymu a grybwyllir yn is-adran (2)(b) (“y cyngor sydd o dan ystyriaeth”),
(b)pob prif gyngor arall y bydd unrhyw reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â’r cyngor sydd o dan ystyriaeth yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal, ac
(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy,
ynglŷn â’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu cymryd o ganlyniad i gael yr adroddiad neu’r cais.
(5)Y pedwerydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (4), nad yw llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn debygol o gael ei chyflawni yn ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth oni fo rheoliadau ailstrwythuro yn cael eu gwneud.
(6)Y pumed amod yw, os yw pob un o’r amodau yn is-adrannau (2) i (5) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau ailstrwythuro, eu bod wedi hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth am eu cynigion ac—
(a)os cynigir trosglwyddo rhan neu rannau o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth, y prif gyngor ar gyfer y brif ardal (neu’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd) a fydd yn cynnwys rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth;
(b)os cynigir creu prif ardal newydd, y prif gyngor ar gyfer prif ardal a fydd yn cael ei huno (neu’r prif gynghorau ar gyfer prif ardaloedd a fydd yn cael eu huno) ag ardal gyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i greu prif ardal newydd;
(c)pob prif gyngor arall yr ymgynghorwyd ag ef fel a ddisgrifir yn is-adran (4)(b).
(1)Caiff prif gyngor, drwy hysbysiad mewn ysgrifen (“cais i ddiddymu”), ofyn i Weinidogion Cymru ystyried diddymu’r cyngor a’i brif ardal.
(2)Rhaid i gais i ddiddymu nodi rhesymau’r prif gyngor dros ofyn am y diddymiad.
(3)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi’r cais i ddiddymu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cais.
(4)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.
(5)Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
(6)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr y prif gyngor at ddibenion y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.
Rheoliadau ailstrwythuro yw rheoliadau sy’n darparu ar gyfer diddymu prif ardal cyngor sydd o dan ystyriaeth ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”) a’r naill neu’r llall, neu’r ddau, o’r canlynol—
(a)bod rhan neu rannau o’r brif ardal sy’n cael ei diddymu i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes neu’n rhannau o brif ardaloedd eraill sy’n bodoli eisoes, ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)ar gyfer cyfansoddi prif ardal newydd ar y dyddiad trosglwyddo drwy—
(i)diddymu prif ardal un prif gyngor arall neu ragor (yn ogystal ag ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth), a
(ii)uno, er mwyn creu prif ardal newydd, y cyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth ag ardal y prif gyngor arall neu’r prif gynghorau eraill (pa un a yw’r cyngor arall neu’r cynghorau eraill hefyd yn gyngor neu’n gynghorau sydd o dan ystyriaeth ai peidio).
(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth o dan adran 131(a)—
(a)pennu, drwy gyfeirio at bob rhan o’r ardal sy’n cael ei diddymu ac sy’n cael ei throsglwyddo i brif ardal sy’n bodoli eisoes, ardal newydd y brif ardal honno,
(b)darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall,
(c)darparu ar gyfer dirwyn y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ben a’i ddiddymu, a
(d)darparu bod y system bleidleisio (gweler adran 134(4)) sy’n gymwys mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall (“prif ardal A”) i fod, yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl y dyddiad trosglwyddo, y system bleidleisio sy’n gymwys yng ngweddill prif ardal A.
(2)Caiff rheoliadau ailstrwythuro, at ddibenion darparu bod rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ddod yn rhan o brif ardal arall, wneud darpariaeth ynglŷn ag—
(a)neilltuo cynghorwyr y cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall;
(b)ethol cynghorwyr i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(c)y system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall, mewn etholiad i lenwi sedd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir ar ôl y dyddiad trosglwyddo a chyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor ar ôl y dyddiad trosglwyddo;
(d)ethol cynghorwyr i gynghorau cymuned yn ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(e)y trefniadau gweithrediaeth mewn cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(f)ffurf y weithrediaeth a weithredir gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(g)ardal maer etholedig ar gyfer cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, cyfnod ei swydd a’i ethol;
(h)y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;
(i)newid enw cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(j)pa un a yw prif ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn sir neu’n fwrdeistref sirol.
(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth fel a ddisgrifir yn adran 131(b) ddarparu ar gyfer—
(a)ffin y brif ardal newydd,
(b)enw’r brif ardal newydd,
(c)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
(d)sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol â pharagraff (e) neu is-adrannau (4) i (7)),
(e)(yn ddarostyngedig i is-adran (4)) bod cyngor cysgodol etholedig ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (a’i fod o’r dyddiad hwnnw yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd),
(f)swyddogaethau’r cyngor cysgodol,
(g)ariannu’r cyngor cysgodol,
(h)penodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet, gan y cyngor cysgodol (sydd, o’r dyddiad trosglwyddo, yn weithrediaeth, ac sydd â holl swyddogaethau gweithrediaeth, i’r prif gyngor),
(i)swyddogaethau’r weithrediaeth gysgodol,
(j)trosglwyddo swyddogaethau i’r prif gyngor newydd o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,
(k)dirwyn i ben a diddymu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,
(l)pa un o’r systemau pleidleisio (gweler adran 134(4)) sydd i fod yn gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd,
(m)dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, ac
(n)cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.
(2)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
(3)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol, wneud darpariaeth yn y rheoliadau ailstrwythuro i’r cyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol dynodedig hyd y cyfnod cyn etholiad.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth o’r fath, rhaid iddynt hefyd, yn y rheoliadau ailstrwythuro—
(a)gwneud darpariaeth sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol sydd i’w phenodi gan y cyngor cysgodol;
(b)darparu, yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.
(6)Yn is-adrannau (4) a (5), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.
(7)At ddibenion yr adran hon—
(a)mae cyngor cysgodol etholedig—
(i)yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a
(ii)yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fo’r cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol;
(b)mae cyngor cysgodol dynodedig—
(i)yn cynnwys yr aelodau hynny o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro, a benodir yn unol â’r rheoliadau, a
(ii)yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro fel y dyddiad y mae’r aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(1)Caiff rheoliadau ailstrwythuro wneud darpariaeth sy’n cyfateb i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y canlynol, neu y caniateir neu y mae rhaid ei gwneud o dan y canlynol, neu sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth (gydag addasiadau neu hebddynt)—
(a)Pennod 4 (trefniadau cydnabyddiaeth ariannol), pan fo’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth yn unol ag adran 131(b);
(b)adran 127 (etholiadau);
(c)paragraffau 2 a 3 o Atodlen 11 (pwyllgorau pontio).
(2)Caiff rheoliadau ailstrwythuro ddarparu—
(a)ar gyfer sefydlu pwyllgor neu gorff arall i gynnig cyngor ac argymhellion i bersonau a bennir yn y rheoliadau ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau, atebolrwyddau ac eiddo, ac ynglŷn â materion staffio;
(b)ar gyfer sefydlu corff corfforedig at ddiben meddiannu a gwaredu unrhyw eiddo, hawliau neu atebolrwyddau sydd gan brif gyngor sydd i’w ddiddymu o dan y rheoliadau, ac arfer unrhyw swyddogaethau cysylltiedig sydd gan y cyngor hwnnw; a chaiff rheoliadau ailstrwythuro—
(i)darparu y gall y corff hwnnw gaffael eiddo, gwneud ardollau, benthyca arian a’i roi ar fenthyg, a
(ii)gwneud darpariaeth ynglŷn â dirwyn y corff hwnnw i ben;
(c)ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i bersonau a bennir yn y rheoliadau;
(d)ar gyfer rhoi cyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru i bersonau a bennir yn y rheoliadau at ddibenion sy’n gysylltiedig ag ailstrwythuro, ac ar gyfer eu gorfodi;
(e)bod Gweinidogion Cymru i ddyfarnu, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, ar faterion sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau ailstrwythuro—
(a)ar ôl cael adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7) ac ar ôl ymgynghori fel a ddisgrifir yn adran 129(4), neu
(b)ar ôl cael cais i ddiddymu,
rhaid iddynt hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth ac unrhyw brif gyngor arall y maent wedi ei hysbysu neu wedi ymgynghori ag ef fel a ddisgrifir yn adran 129.
(4)At ddibenion adrannau 132 a 133, y systemau pleidleisio yw—
(a)y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983;
(b)y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.
(5)Os rhoddir hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6) cyn i adran 7 ddod i rym, ac y bwriedir creu prif ardal newydd—
(a)nid yw adran 133(1) yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau ailstrwythuro sy’n ymwneud â’r hysbysiad, a
(b)rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.
(1)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, at ddibenion yr ailstrwythuro, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall sy’n cael ei ailstrwythuro neu’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r ailstrwythuro.
(2)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—
(a)i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(b)i sicrhau bod y cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd, a’u staff, mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
(3)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro ac eithrio un y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—
(a)i hwyluso trosglwyddo iddo swyddogaethau, staff, eiddo, hawliau ac atebolrwyddau y cyngor sydd o dan ystyriaeth mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(b)i sicrhau bod y cyngor a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.
Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sefydlu pwyllgorau pontio.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 136 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 137 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gynnal adolygiad cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar ôl i Weinidogion Cymru—
(a)cael cais i uno, neu
(b)rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a
(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol mewn perthynas â chynnig i drosglwyddo rhan o brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu ar gyfer trosglwyddiad o’r fath—
(a)rhaid iddo bennu’r ardal (a gaiff fod yn brif ardal gyfan neu’n rhan ohoni) sydd i fod yn destun yr adolygiad cychwynnol, a
(b)caiff bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir yn is-baragraff (i) neu (ii) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—
(i)y materion a nodir yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1;
(ii)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” yn y paragraff hwnnw.
(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.
(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) o adran 29 o Ddeddf 2013 (adolygiadau cyfnodol o drefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd) drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 138(1)(a)(2)(4)-(6) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(c)
I19A. 138(1)(b)(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Ar ôl cael cais i uno caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
(a)hyd nes y bo rheoliadau uno sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 121(5).
(2)Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
(a)hyd nes y bo rheoliadau ailstrwythuro sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 134(3).
(3)Tra bo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) neu (2) yn cael effaith mewn perthynas â chyngor, nid yw’r cyngor yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, i gymryd camau i newid ffurf ei weithrediaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 139(1) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)
I21A. 139(3) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)
I22A. 139(2) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I23A. 139(3) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i Weinidogion Cymru fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I24A. 140(1)(a) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)
I25A. 140(1)(b)(c) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)
I26A. 140(1)(a) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I27A. 140(2) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i gorff perthnasol—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)Mae’r cyrff a ganlyn yn gyrff perthnasol—
(a)unrhyw brif gyngor arall (gan gynnwys cyngor B) y bydd unrhyw reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â chyngor A yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal;
(b)unrhyw bwyllgor pontio a sefydlir gan gyngor A (gweler Atodlen 11);
(c)os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi, y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu i gorff perthnasol arall neu gyngor A unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I28A. 141(1)(2) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(f)(i)-(iii)
I29A. 141(1)(2) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I30A. 141(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) bod rhaid iddo gyflawni ei swyddogaethau taliadau a phensiynau mewn perthynas ag—
(a)y cyngor cysgodol ar gyfer prif ardal newydd a sefydlir o dan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, a
(b)y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, am y flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi.
(2)At ddibenion is-adran (1), swyddogaethau taliadau a phensiynau y Panel yw’r swyddogaethau o dan yr adrannau a ganlyn yn Rhan 8 o Fesur 2011—
(a)adran 142 (taliadau i aelodau), a
(b)adran 143 (pensiynau aelodau).
(3)Yn unol â hynny, mae Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn achos cyngor y mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys iddo; ond o ran ei gymhwysiad yn rhinwedd yr is-adran hon mae Rhan 8 yn ddarostyngedig i—
(a)is-adran (4), a
(b)adran 143.
(4)Pan fo Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3)—
(a)mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol at ddibenion y Rhan honno,
(b)caiff y Panel arfer ei swyddogaethau o dan Ran 8 o Fesur 2011 mewn perthynas â’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd cyn i’r cyngor gael ei sefydlu (gan gynnwys drwy osod gofyniad y bydd y cyngor yn ddarostyngedig iddo pan fydd wedi ei sefydlu); yn unol â hynny, at y dibenion hynny mae’r Rhan honno i’w darllen fel pe bai’r cyngor, cyn iddo gael ei sefydlu, yn awdurdod perthnasol,
(c)pan na fo’r diwrnod trosglwyddo yn digwydd ar 1 Ebrill, mae’r cyfeiriadau yn adran 142 at flwyddyn ariannol yn cynnwys cyfeiriad at ran o’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi,
(d)nid yw adran 143A (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr) yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3) (ond gweler adran 145(6) yn y Bennod hon, sy’n cymhwyso adran 143A pa un bynnag), ac
(e)nid yw adran 146 (adroddiad blynyddol cyntaf y Panel) yn gymwys (ond gweler adran 143(9) yn y Bennod hon).
(5)Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â phrif gyngor ar gyfer ardal sydd neu a oedd â chyngor cysgodol dynodedig, caiff y Panel, mewn perthynas â’r adegau cyn y bydd y cyngor wedi ei gyfansoddi o gynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf, ac ar ôl hynny—
(a)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1) o Fesur 2011;
(b)gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3) o’r adran honno;
(c)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) o’r adran honno;
(d)gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill gwahanol o dan is-adran (6) o’r adran honno;
(e)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3) o Fesur 2011.
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 142(1) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(i)
I32A. 142(1) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn achos cyngor yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142.
(2)Mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf o dan Ran 8 o Fesur 2011 sy’n ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd (“yr adroddiad cyntaf”)—
(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn ddim hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 142 at y diben hwnnw, a
(b)caiff fod yn adroddiad blynyddol neu’n adroddiad atodol, yn ddarostyngedig i’r gofyniad a osodir yn rhinwedd paragraff (a) a’r gofynion o dan adrannau 147(2) a 148(1) ac (1A)(a) o Fesur 2011.
(3)Nid yw adran 148(1A)(b) o Fesur 2011 (terfyn amser ar gyfer cyhoeddi) yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf os yw’n adroddiad atodol.
(4)Pan fo unrhyw adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) ag—
(a)y cyngor cysgodol, neu
(b)y prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd ac na fydd y cyngor hwnnw wedi ei sefydlu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad,
rhaid i’r Panel gymryd y cam a nodir yn is-adran (5).
(5)Cyn cyhoeddi’r adroddiad o dan adran 147 o Fesur 2011, rhaid i’r Panel anfon drafft o’r adroddiad at y canlynol (os nad yw eisoes yn ofynnol i’r Panel wneud hynny o dan adran 147(8)(a) o Fesur 2011)—
(a)y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd;
(b)y cyngor cysgodol (os caiff ei sefydlu);
(c)y personau (os oes rhai) a bennir at y diben hwnnw yn y cyfarwyddyd o dan adran 142.
(6)Caiff adroddiad atodol osod y gofynion a ganlyn ar y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd, neu ar y cyngor cysgodol—
(a)gofynion o fath a bennir yn adran 150(1) neu (3) o Fesur 2011;
(b)gofynion o fath a bennir yn adran 151(1) o’r Mesur hwnnw.
(7)Pan fo adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol, mae adran 150(2) o Fesur 2011 yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad hwnnw (i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud i’r cyngor cysgodol neu ganddo) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.
(8)Mae’r cyfeiriadau yn adrannau 153, 154 a 157 o Fesur 2011 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion a osodir gan adroddiad atodol yn rhinwedd yr adran hon.
(9)Rhaid i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol bennu mewn perthynas â’r cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (pa un a yw’n gyngor cysgodol neu’n brif gyngor ar adeg cyhoeddi’r adroddiad) yr wybodaeth a grybwyllir yn adran 146(3) o Fesur 2011.
(10)Rhaid i’r materion y mae’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon ac adran 142 eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi gael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.
(11)Ond, os yw’r Panel yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â pha ran bynnag o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 143(1)-(4)(7)-(11) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
I34A. 143(5)(6) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)
I35A. 143(5)(a)(6) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 142 a 143.
Gwybodaeth Cychwyn
I36A. 144 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ynglŷn â’r datganiad ar bolisïau tâl sydd i’w lunio gan y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(2)Rhaid i’r argymhellion gael eu cyhoeddi yn ddim hwyrach na chwe wythnos cyn—
(a)pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol etholedig, y dyddiad y mae etholiadau i’r cyngor cysgodol i’w cynnal, neu
(b)pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol dynodedig, y dyddiad y mae’r cyngor cysgodol i’w sefydlu.
(3)Rhaid i gyngor cysgodol lunio a chymeradwyo (ac fe gaiff ddiwygio) datganiad ar bolisïau tâl yn unol ag adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)—
(a)ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â chymeradwyo’r datganiad ar bolisïau tâl ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a
(b)ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf pan fydd prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd.
(4)Yn unol â hynny, mae adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5), 41(1) a (2) a 42(1) a (2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn gymwys; a phan fo’r darpariaethau hynny yn gymwys yn rhinwedd yr is-adran hon—
(a)mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr Pennod 8 o Ran 1 o’r Ddeddf honno at ddibenion y darpariaethau hynny,
(b)mae’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) i’w drin fel blwyddyn ariannol at ddibenion y darpariaethau hynny, ac
(c)mae adran 39(5) o’r Ddeddf honno i’w darllen fel pe bai “on a website” wedi ei roi yn lle “on the authority’s website”.
(5)Ni chaniateir i’r cyngor cysgodol benodi na dynodi unrhyw brif swyddog (o fewn yr ystyr a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) hyd nes y bydd y datganiad ar bolisïau tâl o dan is-adran (3) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.
(6)Mae adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr) yn gymwys mewn perthynas â chyngor cysgodol, yn ddarostyngedig i baragraff 1(7) o Atodlen 12; ac yn unol â hynny mae cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol cymwys at ddibenion yr adran honno.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir o dan Atodlen 11—
(a)mewn perthynas â rheoliadau uno, neu
(b)mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu y bydd cyngor cysgodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 145(1)-(6)(7)(a) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
I38A. 145(7)(b) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
Rhaid i’r canlynol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan hon (a gweler adran 123 mewn perthynas â chanllawiau ynglŷn â cheisiadau i uno)—
(a)prif gyngor (gan gynnwys cyngor cysgodol a gweithrediaeth gysgodol);
(b)pwyllgor pontio (gweler Atodlen 11 ynglŷn â hynny);
(c)pwyllgor neu gorff a sefydlir o dan adran 134(2)(a) neu (b);
(d)corff cyhoeddus—
(i)a sefydlir gan ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau o dan adran 147(6)(a) neu (b);
(ii)y mae darpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau o dan adran 147(6)(a) neu (b) yn ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 146 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Caiff rheoliadau uno a rheoliadau ailstrwythuro gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn perthynas â rheoliadau uno penodol neu reoliadau ailstrwythuro penodol—
(a)at ddibenion y rheoliadau hynny neu o ganlyniad iddynt, neu
(b)er mwyn rhoi effaith lawn i’r rheoliadau hynny.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed—
(a)at ddibenion rheoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, neu o ganlyniad iddynt, neu
(b)er mwyn rhoi effaith lawn i reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.
(4)Mae rheoliadau o dan is-adran (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.
(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—
(a)ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth) o un prif gyngor i brif gyngor arall;
(b)mewn cysylltiad â rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i brif gyngor;
(c)i achos sifil neu droseddol a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn prif gyngor arall;
(d)ar gyfer trosglwyddo staff (yn ddarostyngedig i is-adran (8)), ac ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);
(e)ar gyfer trin un prif gyngor at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor arall;
(f)mewn cysylltiad ag ymddiriedolwyr siarter;
(g)mewn perthynas â siroedd wedi eu cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “preserved counties” gan adran 270(1) o Ddeddf 1972).
(6)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag—
(a)sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth cyrff o’r fath mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, ac ethol neu benodi aelodau o’r cyrff cyhoeddus, neu
(b)diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu estyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.
(7)Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon fod ar ffurf darpariaeth—
(a)sy’n diwygio, yn addasu, yn cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu’n datgymhwyso unrhyw ddeddfiad, neu
(b)sy’n diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).
(8)Rhaid i reoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i drosglwyddiadau a wneir o dan y rheoliadau o dan y Rhan hon (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).
(9)Mae “deddfiad” yn is-adran (7) yn cynnwys unrhyw siarter, pa bryd bynnag y’i rhoddwyd.
(10)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu (3) neu reoliadau a wneir o dan y paragraff hwn;
(b)drwy reoliadau, ddiwygio rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau a wneir o dan y paragraff hwn;
(c)drwy reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon,
a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
Gwybodaeth Cychwyn
I40A. 147(3)(5)(9) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)
I41A. 147(1)-(4), (6)-(8), (10) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Ni chaiff Gweinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4)—
(a)onid ydynt wedi gosod y dogfennau gofynnol gerbron Senedd Cymru, a
(b)oni fo 60 niwrnod o leiaf wedi mynd heibio ers y diwrnod y gosodwyd y dogfennau gofynnol.
(2)Yn is-adran (1), ystyr “y dogfennau gofynnol” yw—
(a)drafft arfaethedig o’r rheoliadau ailstrwythuro, a
(b)datganiad—
(i)sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a ddisgrifir yn adran 129(4), a
(ii)sy’n egluro pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni o ran y mater yn adran 129(5).
(3)Wrth gyfrifo a oes 60 niwrnod wedi mynd heibio at ddibenion is-adran (1)(b), rhaid peidio ag ystyried unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.
(4)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio ag is-adran (1), yn gosod yr offeryn statudol drafft sy’n cynnwys y rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4), rhaid i ddatganiad sy’n rhoi manylion y canlynol fynd gyda’r offeryn—
(a)unrhyw sylwadau a dderbyniwyd ganddynt ar ôl i’r drafft arfaethedig o’r rheoliadau gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a
(b)unrhyw wahaniaethau rhwng y drafft arfaethedig o’r rheoliadau a’r rheoliadau yn yr offeryn statudol drafft.
(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau sy’n cael eu gwneud at ddiben diwygio rheoliadau ailstrwythuro yn unig.
Yn y Rhan hon (gan gynnwys yn Atodlen 1)—
mae i “cais i ddiddymu” (“abolition request”) yr ystyr a roddir yn adran 130(1);
mae i “cais i uno” (“merger application”) yr ystyr a roddir yn adran 121(1);
ystyr “cyngor cysgodol” (“shadow council”) (gan gynnwys “cyngor cysgodol etholedig” a “cyngor cysgodol dynodedig”) yw cyngor a sefydlwyd yn gyngor cysgodol yn unol â darpariaeth a gynhwysir mewn—
rheoliadau uno o dan adran 125;
rheoliadau ailstrwythuro o dan adran 133;
mae i “cyngor sydd o dan ystyriaeth” (“council under consideration”) yr ystyr a roddir gan adran 129(4)(a);
ystyr “cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro“ (“restructuring council”) yw prif gyngor sydd wedi cael hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6) am gynigion Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ailstrwythuro mewn perthynas ag ef;
ystyr “cyngor sy’n uno” (“merging council”) yw prif gyngor sydd wedi gwneud cais i uno ac y bydd ei ardal yn cael ei huno i greu prif ardal newydd;
mae “dogfennau” (“documents”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf (ac eithrio yn adran 148);
mae i “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”)—
mewn perthynas â rheoliadau uno, yr ystyr a roddir yn adran 124(1);
mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro, yr ystyr a roddir yn adran 131;
mae “ffurf y weithrediaeth” (“form of executive”) i’w dehongli yn unol ag adran 11 o Ddeddf 2000;
ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw—
sir yng Nghymru;
bwrdeistref sirol (yng Nghymru);
mae i “rheoliadau ailstrwythuro” (“restructuring regulations”) yr ystyr a roddir yn adran 131;
mae i “rheoliadau uno” (“merger regulations”) yr ystyr a roddir yn adran 124(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 149 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(i)
I44A. 149 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Ym Mesur 2011—
(a)hepgorer Pennod 2 o Ran 9 (cyfuno);
(b)yn adran 172 (gorchmynion a rheoliadau)—
(i)yn is-adran (2)(a) yn lle “, Rhan 2, adran 140, 165 neu 166(2)” rhodder “neu 140 neu 165 neu 166(2) neu Ran 2”;
(ii)yn is-adran (2)(a) hepgorer “neu 165 neu 166(2)”;
(iii)yn is-adran (2)(b) yn lle “, 158” rhodder “neu 158 neu”;
(iv)yn is-adran (2)(b) hepgorer “neu 162 neu 170”;
(v)hepgorer is-adran (2)(c);
(vi)hepgorer is-adran (3).
(2)Yn Neddf 2013—
(a)yn adran 23 (adolygu ffiniau prif ardaloedd), yn is-adran (4)(e) hepgorer is-baragraffau (ii) a (iii);
(b)yn adran 44(1) (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid), hepgorer “neu drwy orchymyn o dan adran 162 o Fesur 2011 (pŵer i wneud gorchymyn cyfuno)”;
(c)yn adran 48(2) (cyfarwyddydau a chanllawiau), hepgorer paragraff (c);
(d)yn adran 71 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (2)(b) hepgorer “neu sy’n diddymu prif ardal”.
(3)Yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6) hepgorer—
(a)adran 1(1) a (2)(a);
(b)adrannau 2 i 39;
(c)adrannau 44 a 45.
Gwybodaeth Cychwyn
I45A. 150(1)(b)(i)(iii)(vi)(2)(a)(d)(3) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(j)
I46A. 150(1)(a)(b)(ii)(iv)(v)(2)(b)(c) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)