RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 1UNO PRIF ARDALOEDD YN WIRFODDOL

Hwyluso uno

I1128Dyletswyddau ar gynghorau sy’n uno i hwyluso trosglwyddo

1

Rhaid i gyngor sy’n uno—

a

at ddibenion yr uno, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall neu’r cynghorau eraill sy’n uno ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r uno, a

b

cymryd pob cam rhesymol—

i

i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r prif gyngor newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a

ii

i sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.