RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 2AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
Ceisiadau i ddiddymu
I1130Ceisiadau i ddiddymu
1
Caiff prif gyngor, drwy hysbysiad mewn ysgrifen (“cais i ddiddymu”), ofyn i Weinidogion Cymru ystyried diddymu’r cyngor a’i brif ardal.
2
Rhaid i gais i ddiddymu nodi rhesymau’r prif gyngor dros ofyn am y diddymiad.
3
Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi’r cais i ddiddymu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cais.
4
Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.
5
Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
6
Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr y prif gyngor at ddibenion y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.