RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 2AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

Rheoliadau ailstrwythuro

131Rheoliadau ailstrwythuro

Rheoliadau ailstrwythuro yw rheoliadau sy’n darparu ar gyfer diddymu prif ardal cyngor sydd o dan ystyriaeth ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”) a’r naill neu’r llall, neu’r ddau, o’r canlynol—

a

bod rhan neu rannau o’r brif ardal sy’n cael ei diddymu i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes neu’n rhannau o brif ardaloedd eraill sy’n bodoli eisoes, ar y dyddiad trosglwyddo;

b

ar gyfer cyfansoddi prif ardal newydd ar y dyddiad trosglwyddo drwy—

i

diddymu prif ardal un prif gyngor arall neu ragor (yn ogystal ag ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth), a

ii

uno, er mwyn creu prif ardal newydd, y cyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth ag ardal y prif gyngor arall neu’r prif gynghorau eraill (pa un a yw’r cyngor arall neu’r cynghorau eraill hefyd yn gyngor neu’n gynghorau sydd o dan ystyriaeth ai peidio).

132Rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu bod rhan o brif ardal i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes

1

Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth o dan adran 131(a)—

a

pennu, drwy gyfeirio at bob rhan o’r ardal sy’n cael ei diddymu ac sy’n cael ei throsglwyddo i brif ardal sy’n bodoli eisoes, ardal newydd y brif ardal honno,

b

darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall,

c

darparu ar gyfer dirwyn y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ben a’i ddiddymu, a

d

darparu bod y system bleidleisio (gweler adran 134(4)) sy’n gymwys mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall (“prif ardal A”) i fod, yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl y dyddiad trosglwyddo, y system bleidleisio sy’n gymwys yng ngweddill prif ardal A.

2

Caiff rheoliadau ailstrwythuro, at ddibenion darparu bod rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ddod yn rhan o brif ardal arall, wneud darpariaeth ynglŷn ag—

a

neilltuo cynghorwyr y cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall;

b

ethol cynghorwyr i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;

c

y system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall, mewn etholiad i lenwi sedd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir ar ôl y dyddiad trosglwyddo a chyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor ar ôl y dyddiad trosglwyddo;

d

ethol cynghorwyr i gynghorau cymuned yn ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;

e

y trefniadau gweithrediaeth mewn cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;

f

ffurf y weithrediaeth a weithredir gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;

g

ardal maer etholedig ar gyfer cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, cyfnod ei swydd a’i ethol;

h

y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

i

newid enw cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;

j

pa un a yw prif ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn sir neu’n fwrdeistref sirol.

133Rheoliadau ailstrwythuro sy’n cyfansoddi prif ardal newydd

1

Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth fel a ddisgrifir yn adran 131(b) ddarparu ar gyfer—

a

ffin y brif ardal newydd,

b

enw’r brif ardal newydd,

c

pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,

d

sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol â pharagraff (e) neu is-adrannau (4) i (7)),

e

(yn ddarostyngedig i is-adran (4)) bod cyngor cysgodol etholedig ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (a’i fod o’r dyddiad hwnnw yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd),

f

swyddogaethau’r cyngor cysgodol,

g

ariannu’r cyngor cysgodol,

h

penodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet, gan y cyngor cysgodol (sydd, o’r dyddiad trosglwyddo, yn weithrediaeth, ac sydd â holl swyddogaethau gweithrediaeth, i’r prif gyngor),

i

swyddogaethau’r weithrediaeth gysgodol,

j

trosglwyddo swyddogaethau i’r prif gyngor newydd o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,

k

dirwyn i ben a diddymu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,

l

pa un o’r systemau pleidleisio (gweler adran 134(4)) sydd i fod yn gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd,

m

dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, ac

n

cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.

2

Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.

3

Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.

4

Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol, wneud darpariaeth yn y rheoliadau ailstrwythuro i’r cyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol dynodedig hyd y cyfnod cyn etholiad.

5

Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth o’r fath, rhaid iddynt hefyd, yn y rheoliadau ailstrwythuro—

a

gwneud darpariaeth sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol sydd i’w phenodi gan y cyngor cysgodol;

b

darparu, yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.

6

Yn is-adrannau (4) a (5), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—

a

sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a

b

sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.

7

At ddibenion yr adran hon—

a

mae cyngor cysgodol etholedig—

i

yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a

ii

yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fo’r cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol;

b

mae cyngor cysgodol dynodedig—

i

yn cynnwys yr aelodau hynny o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro, a benodir yn unol â’r rheoliadau, a

ii

yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro fel y dyddiad y mae’r aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.

134Rheoliadau ailstrwythuro: atodol

1

Caiff rheoliadau ailstrwythuro wneud darpariaeth sy’n cyfateb i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y canlynol, neu y caniateir neu y mae rhaid ei gwneud o dan y canlynol, neu sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth (gydag addasiadau neu hebddynt)—

a

Pennod 4 (trefniadau cydnabyddiaeth ariannol), pan fo’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth yn unol ag adran 131(b);

b

adran 127 (etholiadau);

c

paragraffau 2 a 3 o Atodlen 11 (pwyllgorau pontio).

2

Caiff rheoliadau ailstrwythuro ddarparu—

a

ar gyfer sefydlu pwyllgor neu gorff arall i gynnig cyngor ac argymhellion i bersonau a bennir yn y rheoliadau ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau, atebolrwyddau ac eiddo, ac ynglŷn â materion staffio;

b

ar gyfer sefydlu corff corfforedig at ddiben meddiannu a gwaredu unrhyw eiddo, hawliau neu atebolrwyddau sydd gan brif gyngor sydd i’w ddiddymu o dan y rheoliadau, ac arfer unrhyw swyddogaethau cysylltiedig sydd gan y cyngor hwnnw; a chaiff rheoliadau ailstrwythuro—

i

darparu y gall y corff hwnnw gaffael eiddo, gwneud ardollau, benthyca arian a’i roi ar fenthyg, a

ii

gwneud darpariaeth ynglŷn â dirwyn y corff hwnnw i ben;

c

ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i bersonau a bennir yn y rheoliadau;

d

ar gyfer rhoi cyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru i bersonau a bennir yn y rheoliadau at ddibenion sy’n gysylltiedig ag ailstrwythuro, ac ar gyfer eu gorfodi;

e

bod Gweinidogion Cymru i ddyfarnu, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, ar faterion sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro.

3

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau ailstrwythuro—

a

ar ôl cael adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7) ac ar ôl ymgynghori fel a ddisgrifir yn adran 129(4), neu

b

ar ôl cael cais i ddiddymu,

rhaid iddynt hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth ac unrhyw brif gyngor arall y maent wedi ei hysbysu neu wedi ymgynghori ag ef fel a ddisgrifir yn adran 129.

4

At ddibenion adrannau 132 a 133, y systemau pleidleisio yw—

a

y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983;

b

y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.

5

Os rhoddir hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6) cyn i adran 7 ddod i rym, ac y bwriedir creu prif ardal newydd—

a

nid yw adran 133(1) yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau ailstrwythuro sy’n ymwneud â’r hysbysiad, a

b

rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.