Rheoliadau ailstrwythuro yw rheoliadau sy’n darparu ar gyfer diddymu prif ardal cyngor sydd o dan ystyriaeth ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”) a’r naill neu’r llall, neu’r ddau, o’r canlynol—
(a)bod rhan neu rannau o’r brif ardal sy’n cael ei diddymu i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes neu’n rhannau o brif ardaloedd eraill sy’n bodoli eisoes, ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)ar gyfer cyfansoddi prif ardal newydd ar y dyddiad trosglwyddo drwy—
(i)diddymu prif ardal un prif gyngor arall neu ragor (yn ogystal ag ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth), a
(ii)uno, er mwyn creu prif ardal newydd, y cyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth ag ardal y prif gyngor arall neu’r prif gynghorau eraill (pa un a yw’r cyngor arall neu’r cynghorau eraill hefyd yn gyngor neu’n gynghorau sydd o dan ystyriaeth ai peidio).
(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth o dan adran 131(a)—
(a)pennu, drwy gyfeirio at bob rhan o’r ardal sy’n cael ei diddymu ac sy’n cael ei throsglwyddo i brif ardal sy’n bodoli eisoes, ardal newydd y brif ardal honno,
(b)darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall,
(c)darparu ar gyfer dirwyn y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ben a’i ddiddymu, a
(d)darparu bod y system bleidleisio (gweler adran 134(4)) sy’n gymwys mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall (“prif ardal A”) i fod, yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl y dyddiad trosglwyddo, y system bleidleisio sy’n gymwys yng ngweddill prif ardal A.
(2)Caiff rheoliadau ailstrwythuro, at ddibenion darparu bod rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ddod yn rhan o brif ardal arall, wneud darpariaeth ynglŷn ag—
(a)neilltuo cynghorwyr y cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall;
(b)ethol cynghorwyr i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(c)y system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall, mewn etholiad i lenwi sedd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir ar ôl y dyddiad trosglwyddo a chyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor ar ôl y dyddiad trosglwyddo;
(d)ethol cynghorwyr i gynghorau cymuned yn ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(e)y trefniadau gweithrediaeth mewn cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(f)ffurf y weithrediaeth a weithredir gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(g)ardal maer etholedig ar gyfer cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, cyfnod ei swydd a’i ethol;
(h)y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;
(i)newid enw cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(j)pa un a yw prif ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn sir neu’n fwrdeistref sirol.
(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth fel a ddisgrifir yn adran 131(b) ddarparu ar gyfer—
(a)ffin y brif ardal newydd,
(b)enw’r brif ardal newydd,
(c)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
(d)sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol â pharagraff (e) neu is-adrannau (4) i (7)),
(e)(yn ddarostyngedig i is-adran (4)) bod cyngor cysgodol etholedig ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (a’i fod o’r dyddiad hwnnw yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd),
(f)swyddogaethau’r cyngor cysgodol,
(g)ariannu’r cyngor cysgodol,
(h)penodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet, gan y cyngor cysgodol (sydd, o’r dyddiad trosglwyddo, yn weithrediaeth, ac sydd â holl swyddogaethau gweithrediaeth, i’r prif gyngor),
(i)swyddogaethau’r weithrediaeth gysgodol,
(j)trosglwyddo swyddogaethau i’r prif gyngor newydd o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,
(k)dirwyn i ben a diddymu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,
(l)pa un o’r systemau pleidleisio (gweler adran 134(4)) sydd i fod yn gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd,
(m)dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, ac
(n)cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.
(2)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
(3)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol, wneud darpariaeth yn y rheoliadau ailstrwythuro i’r cyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol dynodedig hyd y cyfnod cyn etholiad.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth o’r fath, rhaid iddynt hefyd, yn y rheoliadau ailstrwythuro—
(a)gwneud darpariaeth sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol sydd i’w phenodi gan y cyngor cysgodol;
(b)darparu, yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.
(6)Yn is-adrannau (4) a (5), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.
(7)At ddibenion yr adran hon—
(a)mae cyngor cysgodol etholedig—
(i)yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a
(ii)yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fo’r cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol;
(b)mae cyngor cysgodol dynodedig—
(i)yn cynnwys yr aelodau hynny o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro, a benodir yn unol â’r rheoliadau, a
(ii)yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro fel y dyddiad y mae’r aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(1)Caiff rheoliadau ailstrwythuro wneud darpariaeth sy’n cyfateb i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y canlynol, neu y caniateir neu y mae rhaid ei gwneud o dan y canlynol, neu sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth (gydag addasiadau neu hebddynt)—
(a)Pennod 4 (trefniadau cydnabyddiaeth ariannol), pan fo’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth yn unol ag adran 131(b);
(b)adran 127 (etholiadau);
(c)paragraffau 2 a 3 o Atodlen 11 (pwyllgorau pontio).
(2)Caiff rheoliadau ailstrwythuro ddarparu—
(a)ar gyfer sefydlu pwyllgor neu gorff arall i gynnig cyngor ac argymhellion i bersonau a bennir yn y rheoliadau ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau, atebolrwyddau ac eiddo, ac ynglŷn â materion staffio;
(b)ar gyfer sefydlu corff corfforedig at ddiben meddiannu a gwaredu unrhyw eiddo, hawliau neu atebolrwyddau sydd gan brif gyngor sydd i’w ddiddymu o dan y rheoliadau, ac arfer unrhyw swyddogaethau cysylltiedig sydd gan y cyngor hwnnw; a chaiff rheoliadau ailstrwythuro—
(i)darparu y gall y corff hwnnw gaffael eiddo, gwneud ardollau, benthyca arian a’i roi ar fenthyg, a
(ii)gwneud darpariaeth ynglŷn â dirwyn y corff hwnnw i ben;
(c)ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i bersonau a bennir yn y rheoliadau;
(d)ar gyfer rhoi cyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru i bersonau a bennir yn y rheoliadau at ddibenion sy’n gysylltiedig ag ailstrwythuro, ac ar gyfer eu gorfodi;
(e)bod Gweinidogion Cymru i ddyfarnu, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, ar faterion sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau ailstrwythuro—
(a)ar ôl cael adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7) ac ar ôl ymgynghori fel a ddisgrifir yn adran 129(4), neu
(b)ar ôl cael cais i ddiddymu,
rhaid iddynt hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth ac unrhyw brif gyngor arall y maent wedi ei hysbysu neu wedi ymgynghori ag ef fel a ddisgrifir yn adran 129.
(4)At ddibenion adrannau 132 a 133, y systemau pleidleisio yw—
(a)y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983;
(b)y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.
(5)Os rhoddir hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6) cyn i adran 7 ddod i rym, ac y bwriedir creu prif ardal newydd—
(a)nid yw adran 133(1) yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau ailstrwythuro sy’n ymwneud â’r hysbysiad, a
(b)rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.