Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Yr amodau sydd i’w bodloniLL+C

129Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau ailstrwythuroLL+C

(1)Os yw’r amodau a nodir yn yr adran hon wedi eu bodloni, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ailstrwythuro (gweler adran 131 ynglŷn â hynny).

(2)Yr amod cyntaf yw bod rhaid bod Gweinidogion Cymru wedi cael—

(a)adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7), neu

(b)cais i ddiddymu o dan adran 130 gan brif gyngor.

(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru—

(a)wedi rhoi hysbysiad i’r cynghorau yr effeithir arnynt bod Gweinidogion Cymru wedi cael yr adroddiad neu’r cais i ddiddymu, a

(b)wedi cyhoeddi’r hysbysiad.

(4)Y trydydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag—

(a)y cyngor a oedd yn destun yr adroddiad a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu a wnaeth y cais i ddiddymu a grybwyllir yn is-adran (2)(b) (“y cyngor sydd o dan ystyriaeth”),

(b)pob prif gyngor arall y bydd unrhyw reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â’r cyngor sydd o dan ystyriaeth yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy,

ynglŷn â’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu cymryd o ganlyniad i gael yr adroddiad neu’r cais.

(5)Y pedwerydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (4), nad yw llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn debygol o gael ei chyflawni yn ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth oni fo rheoliadau ailstrwythuro yn cael eu gwneud.

(6)Y pumed amod yw, os yw pob un o’r amodau yn is-adrannau (2) i (5) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau ailstrwythuro, eu bod wedi hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth am eu cynigion ac—

(a)os cynigir trosglwyddo rhan neu rannau o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth, y prif gyngor ar gyfer y brif ardal (neu’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd) a fydd yn cynnwys rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth;

(b)os cynigir creu prif ardal newydd, y prif gyngor ar gyfer prif ardal a fydd yn cael ei huno (neu’r prif gynghorau ar gyfer prif ardaloedd a fydd yn cael eu huno) ag ardal gyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i greu prif ardal newydd;

(c)pob prif gyngor arall yr ymgynghorwyd ag ef fel a ddisgrifir yn is-adran (4)(b).