- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, PENNOD 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sefydlu pwyllgorau pontio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 136 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 137 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo [F1Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] i gynnal adolygiad cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar ôl i Weinidogion Cymru—
(a)cael cais i uno, neu
(b)rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)[F2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru], a
(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol mewn perthynas â chynnig i drosglwyddo rhan o brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu ar gyfer trosglwyddiad o’r fath—
(a)rhaid iddo bennu’r ardal (a gaiff fod yn brif ardal gyfan neu’n rhan ohoni) sydd i fod yn destun yr adolygiad cychwynnol, a
(b)caiff bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir yn is-baragraff (i) neu (ii) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—
(i)y materion a nodir yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1;
(ii)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” yn y paragraff hwnnw.
(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.
(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.
F3(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 138(1) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 49(a)
F2Geiriau yn a. 138(2)(a) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 49(b)
F3A. 138(6) wedi ei hepgor (9.11.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 41(4), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 138(1)(a)(2)(4)-(6) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(c)
I4A. 138(1)(b)(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Ar ôl cael cais i uno caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
(a)hyd nes y bo rheoliadau uno sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 121(5).
(2)Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
(a)hyd nes y bo rheoliadau ailstrwythuro sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 134(3).
(3)Tra bo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) neu (2) yn cael effaith mewn perthynas â chyngor, nid yw’r cyngor yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, i gymryd camau i newid ffurf ei weithrediaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 139(1) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)
I6A. 139(3) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)
I7A. 139(2) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I8A. 139(3) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i Weinidogion Cymru fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 140(1)(a) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)
I10A. 140(1)(b)(c) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)
I11A. 140(1)(a) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I12A. 140(2) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i gorff perthnasol—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)Mae’r cyrff a ganlyn yn gyrff perthnasol—
(a)unrhyw brif gyngor arall (gan gynnwys cyngor B) y bydd unrhyw reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â chyngor A yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal;
(b)unrhyw bwyllgor pontio a sefydlir gan gyngor A (gweler Atodlen 11);
(c)os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi, y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu i gorff perthnasol arall neu gyngor A unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 141(1)(2) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(f)(i)-(iii)
I14A. 141(1)(2) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I15A. 141(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: