Pŵer i wneud rheoliadau pan na wneir unrhyw argymhellionLL+C
10(1)Os nad yw’r Comisiwn wedi cyflwyno adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru o dan baragraff 8(3) erbyn y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol cynnal yr adolygiad cychwynnol, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-baragraff (2).
(2)Caiff rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn wneud y ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw ddarpariaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu at ddiben gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (2), wneud y pethau a nodir ym mharagraff 5(1)(a) a (b) (ac mae paragraff 5(2) a (4) yn gymwys yn unol â hynny).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt mewn perthynas ag unrhyw faterion sydd wedi dod i sylw’r Comisiwn o ganlyniad i—
(a)unrhyw gamau a gymerwyd o dan baragraff 6,
(b)unrhyw ymchwiliad o dan baragraff 7,
(c)llunio adroddiad o dan baragraff 7 neu 8, neu
(d)unrhyw beth arall a wnaed wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)