Rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10: atodolLL+C
11(1)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion gwneud rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10 neu is-baragraff (3), gyfarwyddo prif gyngor ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu neu gyngor ar gyfer cymuned mewn ardal sy’n cael ei hadolygu i ddarparu unrhyw wybodaeth i Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu i ddarparu unrhyw ddogfennau i Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10 neu is-baragraff (3), anfon copi o’r rheoliadau i—
(a)y Comisiwn,
(b)y prif gyngor neu’r prif gynghorau ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu, ac
(c)y cynghorau cymuned ar gyfer cymunedau y mae newidiadau canlyniadol perthnasol wedi eu gwneud iddynt o dan y rheoliadau (os oes rhai).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan baragraff 9 neu 10 (neu’r is-baragraff hwn).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)