Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 12

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 06/05/2022

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Paragraff 12. Help about Changes to Legislation

Adolygiadau dilynol gan y Comisiwn pan wneir rheoliadau o dan baragraff 9(1)(b) neu 10(2)LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

12(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan baragraff 9(1)(b) neu 10(2) rhaid i’r Comisiwn—

(a)os yw’r rheoliadau yn deillio o gyfarwyddyd o dan adran 11 i gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal, gydymffurfio ag is-baragraff (2);

(b)os yw’r rheoliadau yn deillio o gyfarwyddyd o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol o’r brif ardal gyfan neu ran ohoni, gydymffurfio ag is-baragraff (3).

(2)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2013 o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal—

(a)cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno y cymhwysir y system bleidleisio newydd ynddi, a

(b)pa un bynnag, cyn diwrnod yr etholiad cyffredin nesaf.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2013 o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal berthnasol—

(a)cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno wedi i’r rheoliadau ddod i rym, a

(b)pa un bynnag, cyn diwrnod yr etholiad cyffredin nesaf.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)yn is-baragraff (2), ystyr “y system bleidleisio newydd” yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr i’r cyngor o ganlyniad i arfer y pŵer i newid y system bleidleisio o dan adran 8;

(b)yn is-baragraff (3), ystyr “y brif ardal berthnasol” yw’r brif ardal yr oedd hi, neu unrhyw ran ohoni, yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 12(1)(a)(2)(4)(a) mewn grym, gweler a. 175(2)(k)(iii)(6)(b)

I2Atod. 1 para. 12(1)(b)(3)(4)(b) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Back to top

Options/Help