ATODLEN 1Adolygiadau cychwynnol o drefniadau etholiadol etc.
I112Adolygiadau dilynol gan y Comisiwn pan wneir rheoliadau o dan baragraff 9(1)(b) neu 10(2)
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan baragraff 9(1)(b) neu 10(2) rhaid i’r Comisiwn—
I2a
os yw’r rheoliadau yn deillio o gyfarwyddyd o dan adran 11 i gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal, gydymffurfio ag is-baragraff (2);
I1b
os yw’r rheoliadau yn deillio o gyfarwyddyd o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol o’r brif ardal gyfan neu ran ohoni, gydymffurfio ag is-baragraff (3).
I22
Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2013 o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal—
a
cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno y cymhwysir y system bleidleisio newydd ynddi, a
b
pa un bynnag, cyn diwrnod yr etholiad cyffredin nesaf.
I13
Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2013 o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal berthnasol—
a
cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno wedi i’r rheoliadau ddod i rym, a
b
pa un bynnag, cyn diwrnod yr etholiad cyffredin nesaf.
4
Yn y paragraff hwn—
I2a
yn is-baragraff (2), ystyr “y system bleidleisio newydd” yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr i’r cyngor o ganlyniad i arfer y pŵer i newid y system bleidleisio o dan adran 8;
I1b
yn is-baragraff (3), ystyr “y brif ardal berthnasol” yw’r brif ardal yr oedd hi, neu unrhyw ran ohoni, yr ardal sy’n cael ei hadolygu.