2(1)Yn yr Atodlen hon, mae “ardal sy’n cael ei hadolygu” i’w dehongli yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Pan fo’r Comisiwn yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 11 i gynnal adolygiad cychwynnol, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw ardal y prif gyngor sydd wedi arfer ei bŵer o dan adran 8 i newid y system bleidleisio sy’n gymwys i ethol ei gynghorwyr.
(3)Pan fo’r Comisiwn, ar ôl i Weinidogion Cymru gael cais i uno, yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r brif ardal newydd sydd i’w chyfansoddi, neu a gyfansoddir, gan reoliadau uno.
(4)Pan fo—
(a)ar ôl i Weinidogion Cymru hysbysu am eu cynigion fel a ddisgrifir yn adran 129(6), y Comisiwn yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol, a
(b)cynnig i drosglwyddo rhan o’r brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu y darperir ar gyfer hynny mewn rheoliadau ailstrwythuro,
yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r ardal a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 138.
(5)Pan fo—
(a)ar ôl i Weinidogion Cymru hysbysu am eu cynigion fel a ddisgrifir yn adran 129(6), y Comisiwn yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol, a
(b)bwriad i gyfansoddi prif ardal newydd, neu y darperir ar gyfer hynny mewn rheoliadau ailstrwythuro,
yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r brif ardal newydd sydd i’w chyfansoddi gan reoliadau ailstrwythuro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2(1)(3) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
I2Atod. 1 para. 2(2) mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(2)(k)(iii)(6)(b)
I3Atod. 1 para. 2(4)(5) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(g)