xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3(1)Yn yr Atodlen hon—
ystyr “newidiadau canlyniadol perthnasol” (“relevant consequential changes”), mewn perthynas ag ardal sy’n cael ei hadolygu, yw—
newidiadau yn ffiniau cymunedau yn yr ardal;
newidiadau i enw cymuned, neu’r cyngor ar gyfer cymuned, yr argymhellir newid i’w ffiniau;
newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned yn yr ardal;
ystyr “trefniadau etholiadol” (“electoral arrangements”) yw—
mewn perthynas ag ardal sy’n cael ei hadolygu—
nifer y cynghorwyr ar gyfer y prif gyngor yn yr ardal;
nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir yr ardal iddynt at ddiben ethol cynghorwyr i’r prif gyngor;
nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob ward etholiadol;
enw pob ward etholiadol;
mewn perthynas â chymuned mewn ardal sy’n cael ei hadolygu—
nifer y cynghorwyr ar gyfer cyngor y gymuned;
ei rhaniad yn wardiau cymunedol at ddiben ethol cynghorwyr i gyngor y gymuned;
nifer, math a ffiniau unrhyw wardiau cymunedol;
nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward gymunedol;
enw unrhyw ward gymunedol.
(2)Yn is-baragraff (1), yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol”, mae’r cyfeiriadau at y math o ward yn gyfeiriadau at ba un a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod; ac at y diben hwn—
ystyr “ward amlaelod” (“multiple member ward”) yw ward y mae nifer penodedig (mwy nag un) o gynghorwyr i’w hethol ar gyfer y ward;
ystyr “ward un aelod” (“single member ward”) yw ward y mae un cynghorydd yn unig i’w ethol ar ei chyfer.
(3)Mae adran 149 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyron termau a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)