
Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally enacted).
Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn
This section has no associated Explanatory Notes
4(1)Rhaid i gyfarwyddyd o dan adran 11 neu 138 bennu erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru o dan baragraff 8(3)(a).
(2)Caiff cyfarwyddyd o dan adran 11 neu 138 ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn roi sylw i faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cyffredinol ynglŷn â chynnal adolygiadau cychwynnol, gan gynnwys—
(a)cyfarwyddydau ynglŷn ag ym mha drefn y mae gwahanol adolygiadau cychwynnol sy’n ofynnol gan gyfarwyddydau o dan adran 11 neu 138 i’w cynnal ac ynglŷn ag a yw gwahanol adolygiadau i’w cynnal ar yr un pryd, a
(b)cyfarwyddydau sy’n pennu materion y mae rhaid i’r Comisiwn roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiadau cychwynnol.
(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)y Comisiwn, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i roi’r gorau i gynnal adolygiad cychwynnol, ac i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r adolygiad.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad interim o dan baragraff 7(2) mewn perthynas ag ardal sy’n cael ei hadolygu, gyfarwyddo’r Comisiwn o dan adran 11 neu 138 i gynnal adolygiad cychwynnol arall mewn perthynas â’r un ardal.
(7)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chynnal adolygiadau cychwynnol.
Back to top