6(1)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gymryd y camau y mae’n ystyried eu bod yn briodol—
(a)er mwyn gwneud yr ymgyngoreion gorfodol, ac unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn debygol bod ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad ac unrhyw gyfarwyddydau eraill a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad, a
(b)i ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ar y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ganddo ar gyfer yr adolygiad cychwynnol ac, yn benodol, ar sut y mae’n bwriadu penderfynu ar nifer priodol y cynghorwyr ar gyfer y prif gyngor yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu.
(2)Yn yr Atodlen hon, ystyr “yr ymgyngoreion gorfodol” yw—
(a)yn achos adolygiad cychwynnol a gynhelir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 11, prif gyngor yr ardal sy’n cael ei hadolygu;
(b)yn achos adolygiad cychwynnol a gynhelir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 138, y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro;
(c)y cynghorau ar gyfer y cymunedau presennol (os oes rhai) yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu;
(d)unrhyw bersonau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i gynnal adolygiad cychwynnol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 6(1)(2)(c)(d) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
I2Atod. 1 para. 6(2)(b) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)
I3Atod. 1 para. 6(2)(a) mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(2)(k)(iii)(6)(b)
I4Atod. 1 para. 6(2)(b) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(g)