Adroddiad terfynol
8(1)Ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan baragraff 7(3) ddod i ben, rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.
(2)Yna rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad terfynol sy’n cynnwys—
(a)ei argymhellion o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw argymhellion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol,
(b)manylion yr adolygiad a gynhaliwyd ganddo, ac
(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion yn yr adroddiad interim a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd, ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.
(3)Rhaid i’r Comisiwn—
(a)cyflwyno’r adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru,
(b)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol eraill ac at unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol,
(c)cyhoeddi’r adroddiad, a
(d)rhoi gwybod i unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad interim a gyhoeddwyd o dan baragraff 7, ac unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol, sut i gael gafael ar yr adroddiad.
(4)Pan anfonir adroddiad terfynol at brif gyngor o dan is-baragraff (3)(b), rhaid iddo—
(a)cyhoeddi’r adroddiad terfynol,
(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn ei swyddfeydd am chwe wythnos o leiaf ar ôl y dyddiad y cafodd y cyngor yr adroddiad, ac
(c)cymryd y camau y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud yr etholwyr llywodraeth leol yn ei ardal yn ymwybodol o’r adroddiad, a sut i gael gafael arno.
(5)Nid yw adran 29(8) o Ddeddf 2013 (dim argymhellion i gael eu gwneud na’u cyhoeddi yn y naw mis cyn etholiad cyffredin) yn gymwys yn achos argymhelliad a gynhwysir mewn adroddiad terfynol o dan is-baragraff (2).