Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Paragraff 3. Help about Changes to Legislation

Swyddogaethau pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n unoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i’r cynghorau sy’n uno, ac i’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynglŷn ag—

(a)hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau ac atebolrwyddau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd,

(b)sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol o’r adeg pan fydd yn eu hysgwyddo, ac

(c)unrhyw ddibenion eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor pontio.

(2)Rhaid i bwyllgor pontio hefyd roi cyngor ag argymhellion i Weinidogion Cymru ar unrhyw fater a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Back to top

Options/Help