ATODLEN 11LL+CPWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

RHAN 3LL+CPWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth etc. i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuroLL+C

6(1)Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro dalu costau pwyllgor pontio yn ôl y cyfrannau y cytunant arnynt neu, os na cheir cytundeb, y cyfrannau a ddyfernir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro ddarparu i bwyllgor pontio y cyfleusterau a’r adnoddau (gan gynnwys staff), y wybodaeth a’r dogfennau y gwna’r pwyllgor pontio (neu unrhyw is-bwyllgor i’r pwyllgor pontio) gais rhesymol amdanynt er mwyn ei alluogi i arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)