ATODLEN 11PWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO
RHAN 2CYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO
I1I24Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro
1
Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau gyngor neu ragor sy’n cael eu hailstrwythuro i sefydlu pwyllgor pontio.
2
Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â’r cyfarwyddyd.