ATODLEN 11PWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO
RHAN 1CYNGHORAU SY’N UNO
I11Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno
1
Rhaid i gynghorau sy’n uno sefydlu pwyllgor pontio yn union ar ôl gwneud cais i uno.
2
Mae’r cyfeiriadau at bwyllgor pontio yn y Rhan hon o’r Atodlen hon yn gyfeiriadau at bwyllgor pontio a sefydlir o dan is-baragraff (1).
I22Aelodaeth pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno
1
Rhaid i bwyllgor pontio gynnwys nifer cyfartal o aelodau, heb fod yn llai na 5, o bob un o’r cynghorau sy’n uno.
2
Rhaid i aelodau cyngor sy’n uno sydd i fod yn aelodau o’r pwyllgor pontio gael eu penodi gan y cyngor sy’n uno.
3
Nifer aelodau’r pwyllgor sydd i’w penodi gan bob un o’r cynghorau sy’n uno yw’r nifer y cytunir arno gan y cynghorau sy’n uno neu, os na cheir cytundeb, y nifer y penderfyna Gweinidogion Cymru arno.
4
Rhaid i brif aelod gweithrediaeth y cyngor sy’n uno fod yn un o aelodau’r pwyllgor a benodir gan y cyngor sy’n uno.
5
Os nad yw eisoes wedi ei benodi o dan is-baragraff (4), rhaid i’r aelod gweithrediaeth yn y cyngor sy’n uno sy’n gyfrifol am gyllid gael ei benodi’n aelod o’r pwyllgor yn ogystal.
6
Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor ond ni chaiff y rhain bleidleisio.
7
Mae pwyllgor pontio i’w drin at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau awdurdodau lleol) fel corff sy’n dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno.
8
Yn y paragraff hwn ystyr “prif aelod gweithrediaeth”—
a
yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yw’r arweinydd gweithrediaeth;
b
yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, yw’r maer etholedig.
I33Swyddogaethau pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno
1
Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i’r cynghorau sy’n uno, ac i’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynglŷn ag—
a
hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau ac atebolrwyddau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd,
b
sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol o’r adeg pan fydd yn eu hysgwyddo, ac
c
unrhyw ddibenion eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor pontio.
2
Rhaid i bwyllgor pontio hefyd roi cyngor ag argymhellion i Weinidogion Cymru ar unrhyw fater a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor.
RHAN 2CYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO
I4I84Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro
1
Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau gyngor neu ragor sy’n cael eu hailstrwythuro i sefydlu pwyllgor pontio.
2
Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â’r cyfarwyddyd.
RHAN 3PWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO
I7I95Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro
1
Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.
2
Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a atgyfeirir i’r is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.
3
Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.
4
Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.
I5I106Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth etc. i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro
1
Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro dalu costau pwyllgor pontio yn ôl y cyfrannau y cytunant arnynt neu, os na cheir cytundeb, y cyfrannau a ddyfernir gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro ddarparu i bwyllgor pontio y cyfleusterau a’r adnoddau (gan gynnwys staff), y wybodaeth a’r dogfennau y gwna’r pwyllgor pontio (neu unrhyw is-bwyllgor i’r pwyllgor pontio) gais rhesymol amdanynt er mwyn ei alluogi i arfer ei swyddogaethau.
I67Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro: darpariaeth bellach
I61
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo pwyllgor pontio i arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.
I112
Ni chaiff pwyllgor llywodraethu ac archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—
mae i “pwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit committee”) yr ystyr a roddir gan adran 81 o Fesur 2011;
mae i “pwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr a roddir i “overview and scrutiny committee” gan adran 21(1) o Ddeddf 2000.
3
Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
I11a
ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â pharagraff 1 neu yn rhinwedd paragraff 4;
I6b
mae cyfeiriad at gyngor sy’n uno mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n uno sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio;
I12c
mae cyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio.
F1I64
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .