5(1)Mae caffaeliad neu warediad a wneir mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1 yn ddi-rym.
(2)Mae contract (gan gynnwys contract cyflogaeth) neu gytundeb yr ymrwymir iddo mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1 yn anorfodadwy.
(3)Mae grant neu gymorth ariannol arall neu fenthyciad a roddir mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1 yn ad-daladwy.
(4)Os yw cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn cynnwys cronfeydd ariannol wrth gefn mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1, mae’r cyngor i’w drin at ddibenion adran 30(8) o’r Ddeddf honno fel pe na bai wedi gwneud y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan Bennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)
I2Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)