7(1)At ddiben dyfarnu a yw caffaeliad neu warediad tir yn gaffaeliad neu’n warediad tir perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad neu’r gwarediad o dan sylw i’w thrin fel pe bai’n cynnwys y gydnabyddiaeth ar gyfer unrhyw gaffaeliad neu warediad tir arall—
(a)a wneir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—
(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y caffaeliad neu’r gwarediad o dan sylw, neu
(ii)ar yr un diwrnod â’r caffaeliad neu’r gwarediad hwnnw, a
(b)sy’n ymwneud â’r un mater â’r caffaeliad neu’r gwarediad hwnnw, neu fater o ddisgrifiad tebyg.
(2)At ddiben dyfarnu a yw contract neu gytundeb yn gontract neu’n gytundeb perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth o dan y contract neu’r cytundeb o dan sylw i’w thrin fel pe bai’n cynnwys y gydnabyddiaeth o dan unrhyw gontract neu gytundeb arall—
(a)yr ymrwymir iddo gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—
(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y contract neu’r cytundeb o dan sylw, neu
(ii)ar yr un diwrnod â’r contract neu’r cytundeb hwnnw, a
(b)sy’n ymwneud â’r un mater â’r contract neu’r cytundeb hwnnw, neu fater o ddisgrifiad tebyg.
(3)At ddiben dyfarnu a yw caffaeliad cyfalaf cyfranddaliadau neu gyfalaf benthyciad mewn corff corfforedig yn gaffaeliad cyfalaf perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth mewn cysylltiad â’r caffaeliad cyfalaf o dan sylw i’w thrin fel pe bai’n cynnwys y gydnabyddiaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gaffaeliad cyfalaf cyfranddaliadau neu gyfalaf benthyciad arall (ac eithrio caffaeliad cyfalaf benthyciad pan fo’r amodau a nodir ym mharagraffau (a) a (b) o baragraff 6(5) wedi eu bodloni)—
(a)a wneir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—
(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y caffaeliad cyfalaf o dan sylw, neu
(ii)ar yr un diwrnod â’r caffaeliad cyfalaf hwnnw, a
(b)a wneir yn yr un corff corfforedig â’r caffaeliad cyfalaf hwnnw.
(4)At ddiben dyfarnu a yw grant neu gymorth ariannol arall (ac eithrio benthyciad) yn grant neu’n gymorth ariannol arall perthnasol, mae swm y grant neu’r cymorth ariannol o dan sylw i’w drin fel pe bai’n cynnwys swm unrhyw grant neu gymorth ariannol arall (ac eithrio benthyciad)—
(a)a roddir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—
(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y grant neu’r cymorth ariannol o dan sylw, neu
(ii)ar yr un diwrnod â’r grant neu’r cymorth ariannol hwnnw, a
(b)a roddir i’r un person ag y rhoddir y grant neu’r cymorth ariannol hwnnw iddo.
(5)At ddiben dyfarnu a yw benthyciad yn fenthyciad perthnasol, mae swm y benthyciad o dan sylw i’w drin fel pe bai’n cynnwys swm unrhyw fenthyciad arall—
(a)a roddir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—
(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y benthyciad o dan sylw, neu
(ii)ar yr un diwrnod â’r benthyciad hwnnw, a
(b)a roddir i’r un person ag y rhoddir y benthyciad hwnnw iddo.
(6)Yn y paragraff hwn—
ystyr “benthyciad” (“loan”) (ac eithrio yn “benthyciad perthnasol”) yw benthyciad—
pan fo cyfnod y benthyciad yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu
pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r benthyciad;
mae “caffaeliad neu warediad tir” (“land acquisition or disposal”) yn cynnwys y pethau a nodir ym mharagraff 6(2);
ystyr “contract neu gytundeb” (“contract or agreement”) (ac eithrio yn “contract neu gytundeb perthnasol”, gweler paragraff 6(3) ynglŷn â hynny) yw—
unrhyw gontract, ac eithrio contract cyfalaf—
pan fo cyfnod y contract yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu
pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r contract;
unrhyw gontract cyfalaf (o fewn ystyr paragraff 6(4));
unrhyw gytundeb fframwaith o fewn ystyr rheoliad 33(2) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102)—
pan fo cyfnod y cytundeb fframwaith yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu
pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r cytundeb fframwaith;
ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—
y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais i uno, neu
y dyddiad y rhoddir hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 7 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)(m)(ii)
I2Atod. 12 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)