ATODLEN 2Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhan 1: etholiadau
RHAN 1Deddfwriaeth sylfaenol
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)
14
(1)
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 56(3)(a) (arfer swyddogaethau gan gynghorwyr), yn lle “adran” rhodder “ward”.
(3)
Yn adran 116(1)(b) (hysbysiadau cyhoeddus sy’n ymwneud â sedd wag ar gyngor cymuned sydd i’w llenwi drwy gyfethol), yn lle “adran 36(2)” rhodder “adran 36A”.