xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 01/11/2021

ATODLEN 3LL+CDiwygiadau mewn perthynas â Rhan 2: pŵer cymhwysedd cyffredinol

Valid from 05/05/2022

RHAN 2LL+CDiwygiadau mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2: cynghorau cymuned cymwys

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C

9Yn Neddf 1972, yn adran 137(9) (pŵer awdurdodau lleol i fynd i wariant at ddibenion penodol nad ydynt wedi eu hawdurdodi fel arall), ym mharagraff (b) ar ôl “community council” mewnosoder “which is not an eligible community council for the purposes of Part 2 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (general power of competence)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)LL+C

10Yn Neddf 2000, hepgorer adrannau 2 a 3 (pŵer cynghorau cymuned i hybu llesiant).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (p. 41)LL+C

11(1)Mae Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 55 (hawliadau hwyr: gwrthod rhoi cymorth), yn is-adran (4) hepgorer paragraff (c) (ond nid yr “and” sy’n ei ddilyn).

(3)Yn Atodlen 3 (cadw cymorth yn ôl a’i dynnu’n ôl), ym mharagraff 1(1) hepgorer paragraff (k).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Deddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26)LL+C

12(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 93 (pŵer i godi ffi am wasanaethau disgresiynol), yn is-adran (7) hepgorer paragraff (c).

(3)Yn Atodlen 3 (diwygio pwerau penodol), hepgorer paragraff 12.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)LL+C

13(1)Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 127 (deddfiadau sy’n atal cyngor cymuned rhag arfer ei bŵer llesiant).

(3)Hepgorer Pennod 9 o Ran 7 (achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol).

(4)Yn adran 172 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (2)(a), hepgorer “neu 140”;

(b)yn is-adran (2)(b) hepgorer “127 neu”.

(5)Hepgorer adran 173 (y weithdrefn sy’n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)LL+C

14Yn Neddf Lleoliaeth 2011, yn Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 2 a 4 a’r croesbennawd sy’n dod o flaen paragraff 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Y Ddeddf honLL+C

15Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ym mharagraff 1 hepgorer is-baragraffau (2) a (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)