ATODLEN 9DIWYGIADAU SY’N GYSYLLTIEDIG Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG
RHAN 1CREU SWYDDOGAETHAU CYNLLUNIO STRATEGOL AR GYFER CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PENODOL A DIDDYMU’R PWERAU I SEFYDLU PANELI CYNLLUNIO STRATEGOL ETC.
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37)
37
Yn adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol: dyletswydd gyffredinol cyrff cyhoeddus etc.), yn is-adran (3), yn y diffiniad o “public body” hepgorer paragraff (d) (fel y’i mewnosodwyd gan baragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), a oedd yn honni yn anghywir ei fod yn mewnosod y paragraff hwnnw yn is-adran (2)).