ATODLEN 9LL+CDIWYGIADAU SY’N GYSYLLTIEDIG Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG

RHAN 2LL+CDIDDYMU’R PŴER I SEFYDLU CYD-AWDURDODAU TRAFNIDIAETH

Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p. 5)LL+C

49Yn Neddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006—

(a)hepgorer adran 5 (pŵer i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth);

(b)yn adran 6 (cymorth ariannol: swyddogaethau trafnidiaeth lleol), yn is-adran (1) hepgorer paragraff (a), a’r “and” sy’n ei ddilyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 49 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

50Yn nhabl 1 ym mharagraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darpariaethau trosiannol), hepgorer y cofnod ar gyfer adran 5(1) o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 9 para. 50 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)