Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/05/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 1. Help about Changes to Legislation

1TrosolwgLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Mae’r Rhan hon—

(a)yn darparu ar gyfer estyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol i gategorïau newydd o bersonau (adrannau 2 i 4);

(b)yn darparu ar gyfer dwy system ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gynghorau (y system mwyafrif syml a’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy) ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â pha system sy’n gymwys i unrhyw gyngor penodol (gan gynnwys pŵer i unrhyw gynghorau benderfynu pa un sy’n gymwys) a’r pwerau i wneud rheolau ar gyfer yr etholiadau hynny (adrannau 5 i 13);

(c)yn darparu ar gyfer newid y cylch etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol o bedair blynedd i bum mlynedd (adrannau 14 i 16) ac estyn y pŵer i newid diwrnod arferol etholiadau lleol yng Nghymru (adran 17);

(d)yn darparu ar gyfer cofrestru etholwyr llywodraeth leol heb gais (adran 18);

(e)yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwysiad person i gael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol (adran 19);

(f)yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag anghymhwysiad person rhag cael ei ethol neu ddal swydd fel aelod o awdurdod lleol (adrannau 20 a 21);

(g)yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag arddangos dogfennau mewn etholiadau lleol (adran 22);

(h)yn gwneud darpariaeth ynglŷn â thalu am wariant swyddogion canlyniadau (paragraff 2(5) o Atodlen 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(a)

Back to top

Options/Help