RHAN 6LL+CPERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1LL+CPERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Arolygiadau arbennig gan Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

100Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: troseddauLL+C

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 98(2), (3) neu (4)(b), heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol arolygydd rhag arfer neu geisio arfer pŵer o dan adran 98(1) neu (4)(a) neu (c) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r treuliau rhesymol yr aeth arolygydd iddynt mewn achos ar gyfer trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni mewn perthynas ag arolygiad arbennig, i’r graddau nad ydynt yn adenilladwy o unrhyw ffynhonnell arall, yn adenilladwy gan y prif gyngor y mae’r arolygiad arbennig yn ymwneud ag ef.