Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 100

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn cael effaith mwyach. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 100. Help about Changes to Legislation

100Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: troseddauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 98(2), (3) neu (4)(b), heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol arolygydd rhag arfer neu geisio arfer pŵer o dan adran 98(1) neu (4)(a) neu (c) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r treuliau rhesymol yr aeth arolygydd iddynt mewn achos ar gyfer trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni mewn perthynas ag arolygiad arbennig, i’r graddau nad ydynt yn adenilladwy o unrhyw ffynhonnell arall, yn adenilladwy gan y prif gyngor y mae’r arolygiad arbennig yn ymwneud ag ef.

Back to top

Options/Help