Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 106

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn cael effaith mwyach. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 106. Help about Changes to Legislation

106Cyfarwyddyd i gymryd cam penodedig neu i gadw rhag ei gymryd etc.LL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—

(a)i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y cam o fewn iddo);

(b)i gadw rhag cymryd cam penodedig;

(c)i roi’r gorau i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid i’r cyngor roi’r gorau i gymryd y cam o fewn iddo).

(2)Mae’r camau y caiff cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gyngor eu cymryd yn cynnwys ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall—

(a)gyda pherson penodedig;

(b)gyda pherson o ddisgrifiad penodedig;

(c)at ddibenion penodedig;

(d)ar delerau ac amodau penodedig.

(3)Yn yr adran hon mae “penodedig” yn golygu penodedig yn y cyfarwyddyd.

Back to top

Options/Help