RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 1UNO PRIF ARDALOEDD YN WIRFODDOL
Rheoliadau uno
124Rheoliadau uno
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn cael cais i uno, cânt wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi prif ardal newydd ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”) drwy—
(a)
diddymu prif ardaloedd y cynghorau sy’n uno ar y dyddiad trosglwyddo, a
(b)
uno prif ardaloedd y cynghorau sy’n uno i greu prif ardal newydd.
(2)
Yn y Rhan hon, cyfeirir at reoliadau o dan is-adran (1) fel rheoliadau uno.
(3)
Rhaid i reoliadau uno ddarparu ar gyfer—
(a)
ffin y brif ardal newydd,
(b)
enw’r brif ardal newydd,
(c)
pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
(d)
sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol ag adran 125),
(e)
trosglwyddo swyddogaethau’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd, ac
(f)
dirwyn y cynghorau sy’n uno i ben a’u diddymu.
(4)
Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
(5)
Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.