RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 2AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
Yr amodau sydd i’w bodloni
129Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau ailstrwythuro
(1)
Os yw’r amodau a nodir yn yr adran hon wedi eu bodloni, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ailstrwythuro (gweler adran 131 ynglŷn â hynny).
(2)
Yr amod cyntaf yw bod rhaid bod Gweinidogion Cymru wedi cael—
(a)
adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7), neu
(b)
cais i ddiddymu o dan adran 130 gan brif gyngor.
(3)
Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru—
(a)
wedi rhoi hysbysiad i’r cynghorau yr effeithir arnynt bod Gweinidogion Cymru wedi cael yr adroddiad neu’r cais i ddiddymu, a
(b)
wedi cyhoeddi’r hysbysiad.
(4)
Y trydydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag—
(a)
y cyngor a oedd yn destun yr adroddiad a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu a wnaeth y cais i ddiddymu a grybwyllir yn is-adran (2)(b) (“y cyngor sydd o dan ystyriaeth”),
(b)
pob prif gyngor arall y bydd unrhyw reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â’r cyngor sydd o dan ystyriaeth yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy,
ynglŷn â’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu cymryd o ganlyniad i gael yr adroddiad neu’r cais.
(5)
Y pedwerydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (4), nad yw llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn debygol o gael ei chyflawni yn ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth oni fo rheoliadau ailstrwythuro yn cael eu gwneud.
(6)
Y pumed amod yw, os yw pob un o’r amodau yn is-adrannau (2) i (5) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau ailstrwythuro, eu bod wedi hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth am eu cynigion ac—
(a)
os cynigir trosglwyddo rhan neu rannau o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth, y prif gyngor ar gyfer y brif ardal (neu’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd) a fydd yn cynnwys rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth;
(b)
os cynigir creu prif ardal newydd, y prif gyngor ar gyfer prif ardal a fydd yn cael ei huno (neu’r prif gynghorau ar gyfer prif ardaloedd a fydd yn cael eu huno) ag ardal gyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i greu prif ardal newydd;
(c)
pob prif gyngor arall yr ymgynghorwyd ag ef fel a ddisgrifir yn is-adran (4)(b).