Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

133Rheoliadau ailstrwythuro sy’n cyfansoddi prif ardal newyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth fel a ddisgrifir yn adran 131(b) ddarparu ar gyfer—

(a)ffin y brif ardal newydd,

(b)enw’r brif ardal newydd,

(c)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,

(d)sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol â pharagraff (e) neu is-adrannau (4) i (7)),

(e)(yn ddarostyngedig i is-adran (4)) bod cyngor cysgodol etholedig ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (a’i fod o’r dyddiad hwnnw yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd),

(f)swyddogaethau’r cyngor cysgodol,

(g)ariannu’r cyngor cysgodol,

(h)penodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet, gan y cyngor cysgodol (sydd, o’r dyddiad trosglwyddo, yn weithrediaeth, ac sydd â holl swyddogaethau gweithrediaeth, i’r prif gyngor),

(i)swyddogaethau’r weithrediaeth gysgodol,

(j)trosglwyddo swyddogaethau i’r prif gyngor newydd o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,

(k)dirwyn i ben a diddymu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,

(l)pa un o’r systemau pleidleisio (gweler adran 134(4)) sydd i fod yn gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd,

(m)dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, ac

(n)cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.

(2)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.

(3)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol, wneud darpariaeth yn y rheoliadau ailstrwythuro i’r cyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol dynodedig hyd y cyfnod cyn etholiad.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth o’r fath, rhaid iddynt hefyd, yn y rheoliadau ailstrwythuro—

(a)gwneud darpariaeth sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol sydd i’w phenodi gan y cyngor cysgodol;

(b)darparu, yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.

(6)Yn is-adrannau (4) a (5), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.

(7)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae cyngor cysgodol etholedig—

(i)yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a

(ii)yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fo’r cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol;

(b)mae cyngor cysgodol dynodedig—

(i)yn cynnwys yr aelodau hynny o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro, a benodir yn unol â’r rheoliadau, a

(ii)yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro fel y dyddiad y mae’r aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.