RHAN 7LL+CUNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 2LL+CAILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

Hwyluso ailstrwythuroLL+C

135Dyletswyddau ar gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i hwyluso trosglwyddoLL+C

(1)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, at ddibenion yr ailstrwythuro, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall sy’n cael ei ailstrwythuro neu’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r ailstrwythuro.

(2)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—

(a)i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a

(b)i sicrhau bod y cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd, a’u staff, mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.

(3)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro ac eithrio un y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—

(a)i hwyluso trosglwyddo iddo swyddogaethau, staff, eiddo, hawliau ac atebolrwyddau y cyngor sydd o dan ystyriaeth mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a

(b)i sicrhau bod y cyngor a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.