Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

140Gofyniad ar brif gynghorau i ddarparu gwybodaeth etc. i Weinidogion CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt—

(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,

(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu

(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i Weinidogion Cymru fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 140(1)(a) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)

I2A. 140(1)(b)(c) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)

I3A. 140(1)(a) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)

I4A. 140(2) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)