141Gofyniad ar brif gynghorau i ddarparu gwybodaeth etc. i gyrff eraillLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i gorff perthnasol—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)Mae’r cyrff a ganlyn yn gyrff perthnasol—
(a)unrhyw brif gyngor arall (gan gynnwys cyngor B) y bydd unrhyw reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â chyngor A yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal;
(b)unrhyw bwyllgor pontio a sefydlir gan gyngor A (gweler Atodlen 11);
(c)os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi, y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu i gorff perthnasol arall neu gyngor A unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 141(1)(2) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(f)(i)-(iii)
I2A. 141(1)(2) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I3A. 141(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)