Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

145Datganiadau ar bolisïau tâlLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ynglŷn â’r datganiad ar bolisïau tâl sydd i’w lunio gan y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.

(2)Rhaid i’r argymhellion gael eu cyhoeddi yn ddim hwyrach na chwe wythnos cyn—

(a)pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol etholedig, y dyddiad y mae etholiadau i’r cyngor cysgodol i’w cynnal, neu

(b)pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol dynodedig, y dyddiad y mae’r cyngor cysgodol i’w sefydlu.

(3)Rhaid i gyngor cysgodol lunio a chymeradwyo (ac fe gaiff ddiwygio) datganiad ar bolisïau tâl yn unol ag adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)

(a)ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â chymeradwyo’r datganiad ar bolisïau tâl ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a

(b)ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf pan fydd prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd.

(4)Yn unol â hynny, mae adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5), 41(1) a (2) a 42(1) a (2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn gymwys; a phan fo’r darpariaethau hynny yn gymwys yn rhinwedd yr is-adran hon—

(a)mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr Pennod 8 o Ran 1 o’r Ddeddf honno at ddibenion y darpariaethau hynny,

(b)mae’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) i’w drin fel blwyddyn ariannol at ddibenion y darpariaethau hynny, ac

(c)mae adran 39(5) o’r Ddeddf honno i’w darllen fel pe bai “on a website” wedi ei roi yn lle “on the authority’s website”.

(5)Ni chaniateir i’r cyngor cysgodol benodi na dynodi unrhyw brif swyddog (o fewn yr ystyr a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) hyd nes y bydd y datganiad ar bolisïau tâl o dan is-adran (3) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.

(6)Mae adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr) yn gymwys mewn perthynas â chyngor cysgodol, yn ddarostyngedig i baragraff 1(7) o Atodlen 12; ac yn unol â hynny mae cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol cymwys at ddibenion yr adran honno.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir o dan Atodlen 11—

(a)mewn perthynas â rheoliadau uno, neu

(b)mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu y bydd cyngor cysgodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 145(1)-(6)(7)(a) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

I2A. 145(7)(b) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)