RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 5ATODOL
148Y weithdrefn gychwynnol ar gyfer rheoliadau ailstrwythuro
(1)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4)—
(a)
onid ydynt wedi gosod y dogfennau gofynnol gerbron Senedd Cymru, a
(b)
oni fo 60 niwrnod o leiaf wedi mynd heibio ers y diwrnod y gosodwyd y dogfennau gofynnol.
(2)
Yn is-adran (1), ystyr “y dogfennau gofynnol” yw—
(a)
drafft arfaethedig o’r rheoliadau ailstrwythuro, a
(b)
datganiad—
(i)
sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a ddisgrifir yn adran 129(4), a
(ii)
sy’n egluro pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni o ran y mater yn adran 129(5).
(3)
Wrth gyfrifo a oes 60 niwrnod wedi mynd heibio at ddibenion is-adran (1)(b), rhaid peidio ag ystyried unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.
(4)
Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio ag is-adran (1), yn gosod yr offeryn statudol drafft sy’n cynnwys y rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4), rhaid i ddatganiad sy’n rhoi manylion y canlynol fynd gyda’r offeryn—
(a)
unrhyw sylwadau a dderbyniwyd ganddynt ar ôl i’r drafft arfaethedig o’r rheoliadau gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a
(b)
unrhyw wahaniaethau rhwng y drafft arfaethedig o’r rheoliadau a’r rheoliadau yn yr offeryn statudol drafft.
(5)
Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau sy’n cael eu gwneud at ddiben diwygio rheoliadau ailstrwythuro yn unig.