RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 5ATODOL
150Diddymu deddfiadau eraill
(1)
Ym Mesur 2011—
(a)
hepgorer Pennod 2 o Ran 9 (cyfuno);
(b)
yn adran 172 (gorchmynion a rheoliadau)—
(i)
yn is-adran (2)(a) yn lle “, Rhan 2, adran 140, 165 neu 166(2)” rhodder “neu 140 neu 165 neu 166(2) neu Ran 2”;
(ii)
yn is-adran (2)(a) hepgorer “neu 165 neu 166(2)”;
(iii)
yn is-adran (2)(b) yn lle “, 158” rhodder “neu 158 neu”;
(iv)
yn is-adran (2)(b) hepgorer “neu 162 neu 170”;
(v)
hepgorer is-adran (2)(c);
(vi)
hepgorer is-adran (3).
(2)
Yn Neddf 2013—
(a)
yn adran 23 (adolygu ffiniau prif ardaloedd), yn is-adran (4)(e) hepgorer is-baragraffau (ii) a (iii);
(b)
yn adran 44(1) (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid), hepgorer “neu drwy orchymyn o dan adran 162 o Fesur 2011 (pŵer i wneud gorchymyn cyfuno)”;
(c)
yn adran 48(2) (cyfarwyddydau a chanllawiau), hepgorer paragraff (c);
(d)
yn adran 71 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (2)(b) hepgorer “neu sy’n diddymu prif ardal”.
(3)
Yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6) hepgorer—
(a)
adran 1(1) a (2)(a);
(b)
adrannau 2 i 39;
(c)
adrannau 44 a 45.