159Rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion CymruLL+C
(1)Caiff aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth, at ddibenion arfer swyddogaethau penodedig yr aelod hwnnw mewn perthynas â phrif gyngor, wneud cais bod aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth yn darparu gwybodaeth neu ddogfen.
(2)Rhaid i aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen y gwneir cais amdani o dan is-adran (1), i’r graddau—
(a)y cafwyd neu y crëwyd yr wybodaeth neu’r ddogfen gan yr aelod hwnnw wrth arfer swyddogaethau penodedig yr aelod, a
(b)ei bod yn rhesymol ymarferol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen.
(3)Os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru, at ddiben arfer swyddogaeth a bennir yn is-adran (4), yn gwneud cais i aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen ac—
(a)nad yw’n ofynnol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen o dan is-adran (2) neu unrhyw ddeddfiad arall, a
(b)nad oes gan yr aelod hwnnw bŵer o dan unrhyw ddeddfiad (ac eithrio’r adran hon) i ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen,
caiff yr aelod ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen honno.
(4)Y swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (3) yw—
(a)swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau);
(b)swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu);
(c)swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd).
(5)At ddibenion yr adran hon—
(a)mae person yn aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth os crybwyllir y person hwnnw yng ngholofn gyntaf tabl 2;
(b)swyddogaethau penodedig yr aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth yw’r swyddogaethau a grybwyllir yn yr ail golofn.
TABL 2
Aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth | Swyddogaethau penodedig |
---|---|
Archwilydd Cyffredinol Cymru | Swyddogaethau o dan adrannau 13 a 41 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) (archwilio cyfrifon ac astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth mewn gwasanaethau) |
Swyddogaethau o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (asesiadau sy’n ymwneud â’r egwyddor datblygu cynaliadwy) | |
Swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad prif gynghorau) | |
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru | Swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu swyddogaethau addysg etc. prif gynghorau) |
Gweinidogion Cymru | Swyddogaethau o dan adran 149A ac adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (adolygiadau etc. o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol prif gynghorau) |
Swyddogaethau o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau), Pennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau) neu Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd) o’r Ddeddf hon |
(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio tabl 2 er mwyn—
(a)ychwanegu cofnod;
(b)diwygio cofnod;
(c)hepgor cofnod.
(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir i dabl 2 gan reoliadau o dan is-adran (6), neu at ddibenion rhoi effaith lawn iddo.
(8)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) sy’n diwygio tabl 2, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy;
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(c)y person y bydd cofnod newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud ag ef;
(d)y person y mae cofnod sydd i’w hepgor yn ymwneud ag ef.
(9)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.
(10)Mae adran 33 o Fesur 2009 (rhannu gwybodaeth) yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion rhannu gwybodaeth a dogfennau—
(a)a gafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru neu a ddangoswyd iddo wrth arfer swyddogaethau o dan adrannau 17 i 19 o Fesur 2009, neu
(b)at ddiben arfer y swyddogaethau hynny gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 159(1)-(3)(4)(a)(6)-(10) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(g)