RHAN 9AMRYWIOL

Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol

163Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn penodi ei brif weithredwr

(1)

Mae adran 8 o Ddeddf 2013 (prif weithredwr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adran (2)—

(a)

yn lle “Weinidogion Cymru” rhodder “y Comisiwn”;

(b)

yn lle “ganddynt” rhodder “ganddo”.

(3)

Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

“(2A)

Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).”

(4)

Yn is-adran (3) ar ôl “prif weithredwr” mewnosoder “o dan is-adran (2A),”.

(5)

Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

“(4)

Ni chaiff y prif weithredwr fod—

(a)

yn aelod Seneddol;

(b)

yn Aelod o’r Senedd;

(c)

yn aelod o awdurdod lleol;

(d)

yn swyddog awdurdod lleol;

(e)

yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)

yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.

(5)

Rhaid i’r Comisiwn, wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.”

(6)

Yn adrannau 4(3)(c) a (d) (aelodaeth) ac 11(2)(c) a (d) (comisiynwyr cynorthwyol) o Ddeddf 2013, hepgorer “yng Nghymru”.