RHAN 9AMRYWIOL
Byrddau gwasanaethau cyhoeddus
I1165Uno a daduno byrddau gwasanaethau cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
1
Yn Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), mae adran 47 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Hepgorer is-adran (3) (gofyniad bod yr un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sy’n uno).
3
Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
5
Rhaid i fwrdd unedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—
a
y cynlluniau llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a
b
yr amcanion lleol a nodir yn y cynlluniau hynny.
6
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (5), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynlluniau a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (5)(a) a (b)—
a
i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a
b
yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.
7
Caiff bwrdd unedig, os yw’n ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant—
a
daduno, neu
b
daduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).
8
Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant, gyfarwyddo bwrdd unedig—
a
i ddaduno, neu
b
i ddaduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).
9
At ddibenion is-adrannau (7) ac (8), mae bwrdd unedig—
a
yn daduno os yw’n peidio â bodoli a bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal pob awdurdod lleol a oedd yn aelod o’r bwrdd unedig;
b
yn daduno yn rhannol—
i
os yw’n parhau i fodoli fel y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd dau awdurdod lleol neu ragor, a
ii
os sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân ar gyfer ardal pob awdurdod lleol sydd wedi peidio â bod yn aelod o’r bwrdd unedig.
10
Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir ar ôl daduno neu ddaduno yn rhannol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—
a
y cynllun llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a
b
yr amcanion lleol a nodir yn y cynllun hwnnw.
11
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (10), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynllun a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (10)(a) a (b)—
a
i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a
b
yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.
12
Cyn cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6) neu (11), rhaid i fwrdd ymgynghori ag—
a
y Comisiynydd;
b
Gweinidogion Cymru;
c
unrhyw bersonau eraill y mae’r bwrdd yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
13
Rhaid i fwrdd anfon copi o gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan is-adran (6) neu (11) at y personau a grybwyllir yn adran 44(6).
4
Mae Atodlen 14 yn gwneud diwygiadau i Ddeddfau a Mesurau o ganlyniad i is-adran (3).